Mae Cymru gam yn nes at gynnal gemau yn Ewro 2028, ar ôl i Dwrci dynnu eu cais yn ôl.
Mae hyn yn golygu mai cais gwledydd Prydain i gyd-gynnal y twrnament yw’r unig gais dan ystyriaeth bellach.
Bydd Twrci bellach yn canolbwyntio ar gais i gyd-gynnal y twrnament gyda’r Eidal yn 2032.
Bydd yn rhaid i UEFA gymeradwyo unrhyw gais sy’n cael ei dderbyn;
Fis Ebrill eleni, cafodd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ei henwi’n un o ddeg stadiwm ar gyfer cais ar y cyd rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Dydy Cymru erioed wedi cynnal un o gystadlaethau rhyngwladol mawr y byd pêl-droed.
Y stadiymau eraill sy’n rhan o’r cais yw Stadiwm Tottenham Hotspur a Wembley yn Llundain, Stadiwm Etihad ym Manceinion, Stadiwm Everton yn Lerpwl, St James Park yn Newcastle, Villa Park yn Birmingham, Hampden Park yn Glasgow, Stadiwm Aviva yn Nulyn, a Casement Park yn Belffast.
Hwb i Gymru ar draws y byd
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion fel cyfle i hyrwyddo Cymru ar draws y byd.
“Mae’n destun cyffro clywed bod y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yng nghamau olaf sicrhau eu cais ar gyfer Ewro 2028,” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y blaid.
“Mae hyn wir yn dangos sut mae chwaraeon Prydain yn brif chwaraewr ar y llwyfan byd-eang.
“Bydd y cais hwn o fudd enfawr i economïau’r Deyrnas Unedig a Chymru, gan ddenu twristiaeth i bob cenedl, gan ddarparu cyfleoedd i gael mwy o bobol ynghlwm wrth chwaraeon.
“Mae angen i ni wthio er mwyn i Gymru gael ei chyfran deg o sylw ac ymrwymiad mewn twrnameintiau chwaraeon er mwyn dod â’r buddion i’n heconomi ac i hybu ein delwedd fyd-eang.”