Cipiodd Kiran Carlson, capten tîm criced Morgannwg, ddwy wobr yn ystod noson wobrwyo Clwb Criced Morgannwg ac Orielwyr San Helen neithiwr (nos Fercher, Hydref 4).
Sgoriodd e dros 1,000 o rediadau mewn tymor am y tro cyntaf yn ei yrfa, ar gyfartaledd o 46.43 mewn 14 o gemau.
Daeth ei sgôr gorau erioed, 192, yn erbyn Sussex ym mis Mai, wrth i Forgannwg sicrhau eu sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed – 737 – yn Hove.
Fe fu’n arwain y sir yn niwedd y tymor yn absenoldeb David Lloyd, oedd wedi’i anafu cyn ymuno ar fenthyg ac yna’n barhaol â Swydd Derby, a’r tebygolrwydd yw mai Carlson fydd capten newydd y clwb ar gyfer y tymor nesaf.
Fel bowliwr, cipiodd e 14 o wicedi dosbarth cyntaf.
Roedd dwy wobr hefyd i Zain ul-Hassan, oedd wedi ymuno â’r sir o Swydd Gaerwrangon, wrth iddo yntau gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Forgannwg ac yn Chwaraewr Heb Gap sydd wedi Gwella Fwyaf gan yr Orielwyr, gan dderbyn Tlws Gerry Munday.
Yn absenoldeb batiwr agoriadol cydnabyddedig ar adegau, fe fu’n llenwi’r bwlch gan chwarae fel chwaraewr amryddawn a bowliwr cyflym hefyd.
Sgoriodd e 453 o rediadau yn y Bencampwriaeth, gan gipio 22 o wicedi dosbarth cyntaf hefyd.
Cafodd Henry Hurle o Lys-faen ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Academi gan Forgannwg, ac Asa Tribe o Jersey ei enwi’n Chwaraewr Ail Dîm y Flwyddyn.
Gwobrau eraill
Roedd sawl gwobr arall yn cydnabod cyfraniadau unigolion i’r sir ar y cae ac oddi arno hefyd.
Cafodd Hugh Morris, y Prif Weithredwr sydd newydd gyhoeddi ei ymddeoliad ar drothwy ei ben-blwydd yn 60 oed, ei enwi’n enillydd Gwobr David Evans am ei gyfraniad i’r sir fel chwaraewr, capten a gweinyddwr dros nifer o ddegawdau.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd i Jamie McIlroy am ei bum wiced yn erbyn Swydd Gaerwrangon, sef ei ffigurau gorau erioed (5-34), ac i Michael Neser a Chris Cooke am eu partneriaeth ddiguro allweddol o 461 yn erbyn Swydd Gaerlŷr.
Roedd y bartneriaeth hon yn rhagori ar ymdrechion Dai Davies a Joe Hills yn 1928.
Newidiadau ar y gweill
Cafodd y gwobrau eu cynnal ar ddiwedd tymor digon cythryblus i Forgannwg.
Ar ddiwedd y tymor hwn, mae’r prif hyfforddwr Matthew Maynard wedi ymddiswyddo, a’r capten David Lloyd wedi ymuno â Swydd Derby.
Bydd gan Forgannwg Brif Weithredwr a chadeirydd newydd ar gyfer tymor 2024 hefyd, yn dilyn ymddeoliad Hugh Morris ac ymadawiad Gareth Williams, sydd wedi’i olynu gan Mark Rhydderch-Roberts ar ôl mynd yn aelod o’r Bwrdd gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).
“Mae’r bat wedi dominyddu’r bêl, yn enwedig yng Nghaerdydd lle’r oedd hi’n anodd cael canlyniadau ym Mhencampwriaeth y Siroedd,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Roedd deuddeg gêm gyfartal allan o 14 wedi’n gadael ni mewn sefyllfa lle’r oedden ni wedi gorffen yng nghanol y tabl yn yr ail adran.
“Gallai dwy o’r gemau hynny fod wedi cael eu troi’n fuddugoliaethau – naw wiced i lawr yn erbyn Swydd Efrog a Sussex a byddai un wiced yr un yn y ddwy gêm yna wedi’n rhoi ni’n llawer agosach at y safleoedd dyrchafiad roedden ni’n amlwg yn ceisio’u cyrraedd yn ystod y tymor.”
Dywedodd fod pedair buddugoliaeth allan o bum gêm ar ddechrau’r Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd, yn “gystal dechreuad ag a gawson ni ers amser hir iawn”.
Ond dywed fod anafiadau wedi eu rhwystro nhw wedyn gan eu bod nhw’n garfan mor fach.
“Roedd hynny’n dangos bod dyfnder y garfan yn rywbeth roedd yn rhaid i ni weithio arno fe, ac nid safon y chwaraewyr [oedd y drwg].
“Os rhywbeth, profiad y chwaraewyr yn dod i mewn i’r gemau hynny [oedd y peth pwysig].”
O ran Cwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, dywed eu bod nhw wedi ceisio rhoi cymaint o brofiad i’r chwaraewyr â phosib, a sicrhau amser ar y cae iddyn nhw.
“Wnaethon ni hynny’n dda iawn, ro’n i’n meddwl.
“Roedd hi’n braf cael chwarae yn y gorllewin, cawson ni rywfaint o law yng Nghastell-nedd ar y diwrnod cyntaf ond cawson ni griced yn erbyn Swydd Warwick mewn gêm â sgôr uchel ddaethon ni allan ohoni ar yr ochr anghywir.
“Ond dysgon ni dipyn.
“Weithiau mae tymhorau’n mynd yn wych, ond weithiau mae angen dysgu a sicrhau eich bod chi’n datblygu ar gyfer y tymor nesaf, a dyna rydyn ni’n ei wneud nawr.”