Nid trydaneiddio yw’r flaenoriaeth ar gyfer rheilffyrdd Cymru, yn ôl Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher, Hydref 4).
Dywedodd Lee Waters fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros nifer o fisoedd, er mwyn llunio set o flaenoriaethau ar gyfer buddsoddiadau rheilffyrdd.
Ychwanegodd eu bod nhw’n agos at gytuno ar dair cyfran o’r cynlluniau “iawn i Gymru”.
“Ac mae’n rhaid i mi ddweud, nid oedd trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn agos at frig y rhestr,” meddai.
“Yn wir, bydd yn cymryd o leiaf ddeng mlynedd.
“Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw waith datblygu wedi’i wneud ar hyn o gwbl. Dim. Does gennym ni ddim syniad o’r gost.
“Mae £1bn wedi’i ddyfynnu. Ffigwr bys-yn-yr-awyr yw hwn, a dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod o ble mae hwnnw wedi dod.”
Addewid wag?
Disgrifiodd Lee Waters sylwadau Rishi Sunak fel “addewid etholiadol heb unrhyw niferoedd y tu ôl iddo”.
Mae cynlluniau i drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd yn y de eisoes wedi’u gohirio oherwydd diffyg gwaith datblygu, a dywedodd Lee Waters mai dyma oedd y broblem gyda HS2 hefyd.
“Ac eto, dyma ni eto, yn ailadrodd eu camgymeriad o gyhoeddi menter drawiadol heb unrhyw niferoedd, gwyddoniaeth na chynlluniau y tu ôl iddi, nid yw hynny ar y rhestr o gynlluniau y cytunwyd arnynt ar y cyd,” meddai.
“Nid dyma’r flaenoriaeth fwyaf i deithwyr yn y gogledd.
“Gellid gwneud llawer mwy, er enghraifft, i gynyddu cyflymderau llinell ar brif reilffordd y gogledd, o wella gorsaf Caer, o wella rheilffordd Wrecsam-Bidston.”
“Pwyntiau hurt”
Yn ystod y ddadl, dywedodd Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, fod trigolion yn y gogledd yn teimlo nad ydyn nhw wedi’u cysylltu digon â gweddill y Deyrnas Unedig.
Aeth yn ei blaen i ddweud bod trigolion yn “teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso’n fawr iawn gan y Llywodraeth Lafur hon, yn enwedig o ran meysydd trafnidiaeth, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus”.
Fodd bynnag, dywedodd Lee Waters ei fod yn ei chael hi’n anodd cymryd y sylwadau o ddifrif.
“Dydy’r rhain ddim wedi’u datganoli,” meddai.
“Mae hi’n fy meirniadu am ddiffyg buddsoddiad ei Llywodraeth ei hun yn y seilwaith rheilffyrdd yn y gogledd.
“Dydy e ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.
“Dydw i ddim yn mynd i ymateb i bob un o’r pwyntiau hurt y mae hi’n eu gwneud; rwyf wedi rhoi’r gorau i gymryd llawer ohonyn nhw o ddifrif, a dweud y gwir.”