Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, wedi cadarnhau y bydd hi’n aros yn ei rôl yn ystod ei hymgyrch i ddod yn aelod seneddol nesa’r ynys.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn ddiweddar ei bod hi wedi’i dewis i fod yn ymgeisydd seneddol nesaf Plaid Cymru dros Ynys Môn yn San Steffan.

Pe bai hi’n cael ei hethol yn Aelod Seneddol dros yr ynys, byddai’n rhaid iddi ymddiswyddo o’i sedd yn gynghorydd sir.

Mae hi wedi disgrifio’r profiad o gael ei dewis fel “braint”.

Mae deng mlynedd ers iddi gael ei hethol yn gynghorydd sir am y tro cyntaf, ac yna’n arweinydd benywaidd cynta’r Cyngor.

Bydd hi’n ceisio ennill sedd Ynys Môn oddi ar Virginia Crosbie, yr Aelod Seneddol Ceidwadol presennol.

Gwneud ei gorau dros yr ynys

“Dw i wedi bod yn benderfynol erioed i fynnu’r gorau ar gyfer yr ynys,” meddai.

“Dw i bellach yn edrych ymlaen at y cyfle i wneud hynny yn San Steffan, gan obeithio ymuno â’r tîm Plaid Cymru gweithgar yno.”

Mae Dylan J Williams, Prif Weithredwr a Swyddog Etholiadol Cyngor Ynys Môn, wedi wfftio unrhyw honiadau o wrthdaro buddiannau.

“Does dim byd sy’n atal arweinydd Cyngor rhag sefyll fel ymgeisydd seneddol, ac yn ei rôl yn arweinydd bydd Llinos Medi yn destun Cod Ymddygiad mewn perthynas â datgan buddiannau allanol,” meddai.

“Byddwn ni’n parhau i rannu gwybodaeth sy’n ymwneud â busnes y Cyngor fel arfer, ond fydd unrhyw fater yn ymwneud â rôl yr arweinydd fel ymgeisydd seneddol ddim yn rhan o orchwyl y Cyngor.”