Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo ar y cyfan eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobol a’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi, ond nad yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn eu cyflogau.
Er bod 76% yn teimlo’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y rhai maen nhw’n gofalu amdanyn nhw a’u teuluoedd, dim ond 44% sy’n teimlo bod y cyhoedd yn gyffredinol yn eu gwerthfawrogi.
48% sy’n teimlo’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner, gan gynnwys staff iechyd a’r heddlu.
Dim ond 26% o bobol gofrestredig sy’n fodlon â’u cyflogau, tra bod 33% yn dweud eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol.
Yr arolwg
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar y cyd ag ORS, gwasanaeth sy’n cynnal arolygon barn, rhwng Mawrth a Mai eleni.
Roedd yr arolwg yn gofyn cwestiynau am iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a’r hyn mae pobol yn ei hoffi am weithio yn y sector.
Daeth 3,119 o ymatebion gan weithwyr gofal cymdeithasol – sy’n cyfateb i 6% o’r gweithlu cofrestredig – o ystod eang o swyddi.
Dywedodd y rhan fwyaf eu bod nhw wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol (63%).
Ond dywedodd 26% ohonyn nhw eu bod nhw’n debygol o adael y maes dros y deuddeg mis nesaf.
Cyflogau isel (66%) yw’r prif reswm gafodd ei nodi, ynghyd â’r teimlad eu bod nhw’n cael eu gorweithio (54%) a’u bod nhw’n gweithio dan amodau cyflogaeth neu waith gwael (40%).
Er gwaetha’r heriau, dywedodd 65% fod eu morâl yn dda drwy’r amser neu ran fwya’r amser.
Dyma rai o’r casgliadau eraill:
- 78% yn teimlo’u bod nhw’n cael eu cefnogi gan eu cydweithwyr, a 66% gan eu rheolwr
- 79% yn teimlo’u bod nhw wedi cael digon o hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda
- 75% yn credu bod cyfleoedd hyfforddi ar gael iddyn nhw (75%)
- 50% nad ydyn nhw mewn sefyllfa arwain yn credu y gallen nhw ddod yn arweinwyr
- 36% yn dweud y bydden nhw’n hoffi arwain ryw ddiwrnod
- 53% yn cytuno bod arweinwyr gofal cymdeithasol yn dod o gefndiroedd amrywiol
- 45% yn dweud bod ganddyn nhw rywfaint o Gymraeg
- 82% yn ei chael hi ychydig neu lawer anoddach i ymdopi’n ariannol na’r llynedd
- 44% yn teimlo’i bod hi’n ‘eithaf tebygol’ y byddan nhw’n gadael y sector yn ystod y bum mlynedd nesaf
- Argaeledd staff (72%) ac ansawdd ymgeiswyr (72%) yw’r heriau mwyaf gafodd eu hadrodd ynghylch recriwtio
- 37% wedi profi bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn y gweithle
- 38% o weithwyr cymdeithasol yn anfodlon â’u swyddi presennol
- 77% o weithwyr cymdeithasol yn teimlo bod cael gormod o waith neu ddiffyg amser i’w gwblhau yn achosi straen
- 66% yn cael boddhad o gwblhau eu gwaith yn dda
Cafodd yr ymatebwyr eu rhannu’n dri grŵp – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol.
Dyma’r arolwg cyntaf o’i fath, ac mae’n cynnig atebion i rai heriau a chwestiynau nad ydyn nhw wedi’u cael o’r blaen, fydd yn cael eu defnyddio i lywio’r cymorth a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.
Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal eto y flwyddyn nesaf, a bydd tueddiadau’n cael eu monitro yn y cyfamser.
‘Ymrwymiad eithriadol ein gweithlu wedi disgleirio’
Yn ôl Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, roedd “ymrwymiad eithriadol” staff gofal cymdeithasol “wedi disgleirio drwy gydol yr arolwg”.
Ond mae hi’n rhybuddio bod “llawer mwy i’w wneud i sicrhau bod ein gweithlu’n teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u bod nhw’n cael y cymorth gorau posibl”.
“Rydyn ni’n gwybod mai gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol yw’r prif ysgogiad i’r gweithlu, ac rydw i’n drist eu bod nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan rai,” meddai.
“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i weithio mewn partneriaeth â’r sector i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad, gan gynnwys gwella tâl, telerau ac amodau a mynd i’r afael â materion recriwtio a chadw.”
Caiff ei sylwadau eu hategu gan Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru.
“Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn amlygu ymrwymiad gwych ein gweithlu gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobol, ond mae’r arolwg hefyd yn dangos y pwysau anhygoel sydd ar y gweithlu,” meddai.
“Mae hyn yn cael ei waethygu gan ddiffyg cydnabyddiaeth canfyddedig a chyflogau isel.
“Rwy’n credu bod hwn yn alwad i bob un ohonom ym maes gofal cymdeithasol i wneud mwy i gefnogi ein gweithlu hanfodol.
“Mae llawer yn cael ei wneud gan y Llywodraeth, ein hunain ac eraill, ond mae angen inni ddysgu o’r canlyniadau hyn i wella ein cefnogaeth i’r grŵp hanfodol hwn o weithwyr.”