Mae tafarn y Pentre Arms Llangrannog wedi ennill clod mawr arall, ar ôl cael ei gydnabod gan TripAdvisor yn un o enillwyr ‘Traveller’s Choice 2023’ ar gyfer y 10% uchaf o Westai Gorau’r Byd.

Gwobr yw hon sy’n dathlu busnesau sydd wedi cael adolygiadau gwych ar TripAdvisor gan deithwyr ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd dros y deuddeg mis diwethaf.

Mae’r perchennog Michael Rutherford yn rhedeg y gwesty ers 24 mlynedd, ac mae ganddo fe ddau reolwr yn rhedeg y dafarn ei hun.

Mae’n siarad yn wylaidd iawn wrth roi ei ymateb i’r newyddion.

“Tystysgrif yw e – mae TripAdvisor wedi ein rhoi ni yn y 10% gwestai gorau ledled y byd,” meddai wrth golwg360.

“A dyna ni, dweud gwir! Mae unrhyw beth yn dda…

“Mi oedd yn syrpreis neis.

“Mae’n beth braf iawn i’w gael, on’d yw e?”

Yn y gorffennol, mae’r dafarn wedi ennill gwobr ‘Tafarn Gastro y Flwyddyn Canolbarth Cymru’ gan Wobrau Bwyd Cymru.

Dydy Michael Rutherford ddim yn gallu egluro’n union pam fod pobol wedi dotio cymaint at y gwesty.

“Yn amlwg, mae’r lleoliad yn ddiguro, ac mae’r staff, y cwsmeriaid, a’r bobol leol i gyd yn ei wneud yn lle braf iawn i fod ac i aros ynddo,” meddai.

“Mae hi’n dafarn leol iawn.”

Lle traddodiadol

Yr olygfa o’r bar dros y môr

Y tu mewn i’r Pentre Arms, mae bar clyd a bwrdd pŵl, dewis da o gwrw a bwydlen dda, a ffenestr fawr lydan yn edrych at y môr.

Un peth mae’r dafarn yn llwyddo i’w wneud yw denu’r bois lleol i lymeitian wrth y bar, yn ogystal ag ymwelwyr drwy’r flwyddyn.

Fe fydd rhai o’r locals yn dod i mewn bob dydd, eraill unwaith, ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos, yn ôl Mike Rutherford.

“Maen nhw bob amser yn mwynhau cael sgyrsiau ac yn cynnwys yr ymwelwyr hefyd,” meddai.

“Rydyn ni wedi ei gadw’n draddodiadol, gyda llawer o hen luniau o gwmpas; lluniau hanesyddol o bobol leol sydd wedi mynd a dod, ond rydyn ni dal wedi cadw eu lluniau.

“Mae yna luniau plant yn y cychod o 75 i 100 mlynedd yn ôl.”

Rhan o lwyddiant y lle, yn ôl y perchennog, yw peidio â newid gormod ar bethau.

“Dydy pobol ddim yn hoffi newid,” meddai.

“Mae rhai pethau wedi bod ar y fwydlen ers 24 mlynedd!

“Mae gennym ni bobol yn dod i lawr ar eu gwyliau bob blwyddyn, yn dweud, ‘O, gobeithio’n wir fod gyda chi’r Morrocan Lamb ar y fwydlen o hyd – dw i wedi bod yn edrych ymlaen ato ers y llynedd!’

“Dw i ddim yn cael newid y fwydlen, hyd yn oed!”

Yn anffodus mae tafarn arall y pentref glan môr, y Ship, wedi cau ei ddrysau ers Dydd Calan, er ei bod newydd gael ei gwerthu yn ddiweddar.

Y llofftydd

Er ei fod yn ceisio cadw pethau’n ddigyfnewid, dywed y perchennog ei fod wedi gorfod codi prisiau’r llety eleni oherwydd “yr holl gostau”.

Mae e ar fin dechrau gwaith ailwampio’r llofftydd yn y flwyddyn newydd, i greu ystafelloedd ymolchi newydd.

Mae ffenestri bron pob un o’r llofftydd safonol ar y llawr cyntaf yn edrych i lawr ar y môr, heb ddim arall o’u blaen.

Maen nhw wedi eu henwi ar ôl rhai hen gymeriadau lleol, fel y brodyr Ewyndon a Morlais Jones, a ‘Gwylan’, cwch pysgotwr lleol o’r enw Teifion.

“Rydyn ni’n hoffi cadw ychydig o’r hanes lleol,” meddai Michael Rutherford, sy’n hanu o Lerpwl ond yn byw yn Llangrannog ers 35 o flynyddoedd.

Mae’n credu bod y wobr yn newyddion da i’r pentref hefyd.

“Mae unrhyw beth sy’n denu rhagor o bobol i’r pentref yn beth da,” meddai.

Nodwedd arall sy’n plesio selogion y Pentre Arms yw’r webcam ar y wal tu fa’s, sy’n galluogi pobol o bedwar ban byd i wylio’r tonnau o’u cartref, a breuddwydio am wyliau arall yn Llangrannog a’r Pentre Arms.