Byddai cwtogi oriau agor llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych yn golygu bod cymunedau ar eu colled, yn ôl un fu’n siarad â golwg360 yn dilyn lansio ymgynghoriad yn y sir.

Mae Cyngor sir Ddinbych yn ymgynghori ar newidiadau i oriau agor yn yr wyth llyfrgell yn y sir sydd dan ofalaeth y Cyngor.

Mae’r Cyngor yn dweud bod rhaid iddyn nhw ddod o hyd i arbedion sylweddol dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae gofyn i nifer fawr o wasanaethau wneud newidiadau er mwyn darganfod arbedion, gan gynnwys y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

Dywed y Cyngor eu bod nhw’n teimlo, “wedi trafod nifer o opsiynau”, mai’r ffordd orau a “thecaf” o fynd i’r afael â’r sefyllfa yw haneru oriau agor llyfrgelloedd ar draws y sir.

Fel arall, meddai’r Cyngor, byddai’n rhaid ystyried cau llyfrgelloedd yn gyfangwbl er mwyn gallu cynnal gwasanaeth llawn neu er mwyn peidio gorfod cyflwyno diswyddiadau gorfodol.

Yn ogystal â’r cyhoedd, maen nhw’n ymgynghori ag undebau llafur, cynghorau cymuned lleol, a grwpiau neu sefydliadau sy’n gwirfoddoli neu’n rhedeg gwasanaethau yn y llyfrgelloedd.

Yr ymgynghoriad

Dywed y Cyngor eu bod nhw’n deall na fyddai cau llyfrgelloedd yn gam poblogaidd, a’u bod nhw wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i sicrhau bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd o safon uchel sy’n denu defnyddwyr cyson.

Maen nhw am sicrhau bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau ym mhob tref sydd â llyfrgell ar hyn o bryd, er y bydd hyn yn golygu cwtogi oriau.

Eu gobaith yw y gallen nhw ddychwelyd maes o law i’r oriau llawn pan fydd y sefyllfa economaidd yn gwella.

Gyda hyn mewn golwg, maen nhw’n dymuno gwybod a yw pobol yn cytuno â’r oriau agor arfaethedig ar gyfer eu llyfrgell leol.

Ar hyn o bryd, maen nhw’n cynnig gwasanaeth ar draws y sir rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, ac mae pob llyfrgell ar gau ar ddydd Sul.

‘Cwtogi o’r top i lawr sydd angen’

Yn ôl Moi Lewis, sy’n defnyddio Llyfrgell Llanelwy, bydd y gymuned ar ei cholled o gwtogi oriau.

“Trist iawn wir!!,” meddai wrth golwg360.

“Bydd y plant yn colli allan ar eu tystysgrif ddarllen ar fore Sadwrn, bydd pobol mewn gwaith yn colli allan ar fore Sadwrn, bydd llawer swydd yn mynd.

“Mae’r henoed a llawer eraill yn colli allan ar gwmpeini, cynhesrwydd, a phaned, sydd yn arbed iechyd meddwl.

“Mae ambell lyfrgell hefo bore crefft, sydd yn bwysig iawn i bobol ar ben eu hunain.

“A llawer mwy…”

Mae ganddi un ateb posib i’r sefyllfa hefyd.

“Gormod o benaethrwydd sydd; cwtogi o’r top i lawr sydd angen!!”

Goresgyn unigrwydd

I eraill fel Menna Thomas o Ruthun, gall llyfrgelloedd fod yn ffordd o oresgyn unigrwydd.

“Ers i mi golli fy ngŵr flwyddyn a hanner yn ôl, mae Llyfrgell Rhuthun wedi agor llawer iawn o ddrysau i mi,” meddai.

“Galwais yno un diwrnod ac ymaelodi ar gwrs crefftio, yna es ymlaen i ymaelodi â chwrs brodwaith yn lleol.

“Yna, ymaelodi â Cwiltwyr Dyffryn Clwyd.

“Mae hyn wedi golygu i mi wneud nifer fawr o ffrindiau newydd.

“Oherwydd fy niddordebau newydd, rwy’ wedi defnyddio’r llyfrgell i archebu nifer fawr o lyfrau ar bynciau eang.

“Mae’r gwasanaeth llungopïo wedi bod yn werthfawr iawn i mi.

“Gan fy mod yn byw ar ben fy hun, byddaf yn galw yn y llyfrgell i ddarllen papurau lleol, cael paned, ychwanegu dipyn o ddarnau at y jigso cymunedol, ac i gael sgwrs hefo aelodau o’r staff, yr unig bobol I mi eu gweld mewn diwrnod weithiau.

“Mae cwtogi oriau agor yn hollol afresymol.

“Mae’r llyfrgell o fantais fawr i’r gymuned.”

‘Realiti economaidd’

Yn ôl y Cynghorydd Emrys Wynne, sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, diwylliant a threftadaeth ar y Cyngor, “realiti economaidd” sy’n gyfrifol am y sefyllfa.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio’n galed i adeiladu gwasanaeth cynhwysfawr, ac mae’r Cyngor yn hynod siomedig nad yw’n medru parhau â’r gwasanaeth hwn yn ei gyfanrwydd,” meddai.

“Fodd bynnag, dyma’r realiti economaidd sy’n wynebu pob awdurdod lleol ar hyn o bryd.

“Yn anffodus, bydd y model hwn yn cael effaith ar staff llyfrgelloedd ar draws y gwasanaeth, a bydd y Cyngor yn cyfarfod â staff ac undebau llafur i ymgynghori’n llawn ar y cynigion hyn.

“Mae’r model sydd wedi’i gyflwyno’n anelu i gyflwyno gwasanaeth teg a chyfartal ar draws y sir.

“Drwy sicrhau bod pob llyfrgell yn aros ar agor mewn rhyw ffordd, mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd modd dychwelyd i wasanaeth llawn yn y dyfodol pan fydd yr hinsawdd economaidd yn fwy ffafriol.”

‘Bwrw’r rhai mwyaf bregus’

Dywed y Cynghorydd Annibynnol Huw Hilditch-Roberts y bydd y cynigion yn bwrw’r rhai mwyaf bregus pe baen nhw’n mynd yn eu blaenau.

“Dw i wedi fy syfrdanu sut mae’r toriad hwn i lyfrgelloedd wedi dod ar ôl cyfres o gyfarfodydd am y gyllideb,” meddai.

“Dw i’n synnu bod y glymblaid Llafur/Plaid Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad heb ymgysylltu â phob aelod.

“Mae llyfrgelloedd yn wasanaethau hanfodol i bobol fregus, myfyrwyr, plant a phobol mewn addysg.

“Rydyn ni jest yn teimlo, fel grŵp o gynghorwyr annibynnol, nad ydyn ni wedi cael y data ynghylch pam eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad hwn.

“Alla i ddim hyd yn oed dweud wrthych chi pwy sy’n defnyddio’r llyfrgell ar hyn o bryd, gan nad ydyn ni wedi cael y wybodaeth honno.

“Mae’r penderfyniad hwn i fynd i ymgynghoriad heb ymgysylltu â chynghorwyr yn ffordd newydd sbon o weithio.

“Caiff llyfrgelloedd eu defnyddio ar gyfer llesiant.

“Mae pobol sydd heb gyfrifon banc yn eu defnyddio i dalu biliau a threth y cyngor a rhent, a hefyd dros yr haf mae plant yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd llyfrau ac yn ymgysylltu.

“Yn amlwg, gall pobol gadw’n gynnes ond mae hefyd yn fater o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn y llyfrgell.

“Nid dim ond llyfrau ydy hyn, ond mynediad at gyfrifiaduron, gallu llungopïo dogfennau, ac mae rhai myfyrwyr yn dibynnu ar y llyfrgell ar gyfer mynediad at gyfrifiadur ar gyfer eu haddysg.

“Mae’n eironig eu bod nhw wedi lansio’r ymgynghoriad hwn yn ystod Wythnos Genedlaethol Llyfrgelloedd.”


Mae oriau newydd arfaethedig pob llyfrgell yn Sir Ddinbych fel a ganlyn:

 

Llyfrgell Corwen

10yb-1yp ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener

2yp-5yp ddydd Iau

Ar gau ddydd Mercher a dydd Sadwrn

 

Llyfrgell Llangollen

9yb-12yp ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher

2yp-5yp ar ddydd Gwener

Ar gau ddydd Iau a dydd Sadwrn

 

Llyfrgell Rhuthun

10yb-5yp ddydd Mawrth a dydd Gwener

10yb-1yp ddydd Iau

10yb-12.30yp ddydd Sadwrn

Ar gau ddydd Llun a dydd Mercher

 

Llyfrgell Dinbych

10yb-5yp ddydd Llun a Gwener

10yb-1yp ddydd Mercher

10yb-12.30yp ddydd Sadwrn

Ar gau ddydd Mawrth a dydd Iau

 

Llyfrgell Llanelwy

10yb-1yp ddydd Llun a dydd Iau

2yp-5yp ddydd Mawrth a dydd Gwener

Ar gau ddydd Mercher a dydd Sadwrn

 

Llyfrgell Rhuddlan

10yb-1yp ddydd Mercher a dydd Gwener

2yp-5yp ddydd Llun a dydd Iau

Ar gau ddydd Mawrth a dydd Sadwrn

 

Llyfrgell Prestatyn

10yb-5yp ddydd Llun a dydd Iau

10yb-1yp ddydd Mawrth

10yb-12.30yp ddydd Sadwrn

Ar gau ddydd Mercher a dydd Gwener

 

Llyfrgell Y Rhyl

10yb-5yp ddydd Llun a dydd Gwener

10yb-1yp ddydd Mawrth a dydd Mercher

10yb-12.30yp ddydd Sadwrn

Ar gau ddydd Iau


I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, mae modd:

  • cwblhau’r ffurflen ar wefan Cyngor Sir Ddinbych
  • cwblhau’r ffurflen bapur a’i dychwelyd i unrhyw Lyfrgell dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw Hydref 30.