Bydd digwyddiad na welwyd ei debyg o’r blaen yn cael ei gynnal dros dair noson yng Nghastell Caernarfon ddiwedd y mis yma (Hydref 27-29).
Bydd y digwyddiad yn gweld y cerddor Gruff Rhys a’r artist laser arloesol Chris Levine yn dod ynghyd ar gyfer première byd Annwn, sioe laser a cherddoriaeth arallfydol fydd yn cael ei pherfformio y tu fewn i furiau’r castell hanesyddol.
Does yna’r un sioe debyg wedi cael ei pherfformio yn y castell hwn nac mewn unrhyw gastell arall, yn ôl y trefnwyr, a hwn fydd y digwyddiad mwyaf yn y castell ers cyn Covid-19.
Mae cyfraniadau sain wedi’u creu’n arbennig ar gyfer Annwn gan Gruff Rhys, yn seiliedig ar ei gasgliad blaenorol, ei archif a’i arbrofi diweddaraf.
I gyfeiliant y sain, mi fydd y gynulleidfa yn cael eu trochi mewn perfformiad golau a laser gan Chris Levine.
Mae’r profiad sain a golau wedi’i ysbrydoli gan weledigaeth Annwn.
Bydd profiad y gynulleidfa’n para tua phedair awr, a byddan nhw’n gallu symud o gwmpas y castell yn ystod y sioe.
Cerddoriaeth electronig Gruff Rhys
Bydd ail gymysgiadau o gerddoriaeth Gruff Rhys gan y dylunydd sain Marco Perry yn chwarae’n barhaus drwy’r noson.
Ryw hanner ffordd drwy’r sioe, bydd Gruff Rhys yn perfformio set electronig gydag elfennau byw, yn cynnwys trac newydd a cherddoriaeth o’i ôl-gatalog.
“Mae’r dylunydd sain Marco Perry wedi ailgymysgu traciau o’m hôl-gatalog i greu sain electronig gofodol,” meddai’r cerddor.
“Bydd y sioe laser a remixes Marco Perry yn chwarae’n barhaus dros bedair awr – byddaf yn chwarae set electronig amgylchynol 75 munud o hyd gydag elfennau byw o tua 8.30pm ymlaen.”
‘Hollol anhygoel, hollol unigryw’
Yn ôl Chris Levine, mae’r sioe hon yn torri tir newydd o fewn waliau’r castell.
“Does dim amheuaeth nad oes dim byd tebyg i’r hyn rydan ni am wneud erioed wedi digwydd y tu mewn i waliau’r castell hwn nac unrhyw gastell arall ar y Ddaear, a bydd cyferbyniad y lleoliad hynafol a thechnoleg arloesol yn codi’r gwaith i diriogaeth swreal,” meddai.
“Rwy’n gyffrous i wneud hyn ac yn meddwl y bydd yn brofiad hollol anhygoel, hollol unigryw.”
I Dr Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw a’i thîm, bydd hwn yn benwythnos o ddiwylliant arwyddocaol.
“Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal Annwn, rhan o’r gyfres o ddigwyddiadau’r iy_project a grëwyd gan Chris Levine a’i gydweithwyr,” meddai.
“Hwn fydd ein digwyddiad diwylliannol mwyaf ac arwyddocaol yng Nghymru ers Covid – a gyda Gruff Rhys yn ychwanegu ei sain 3D newydd anhygoel i waith laser ysbrydoledig Chris ar gyfer Castell Caernarfon, dwi’n gwybod y bydd yn brofiad bythgofiadwy.”
Cefnogi’r Samariaid
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi Samariaid Cymru hefyd.
“Rydym yn hynod gyffrous a diolchgar i dîm Annwn am ddewis Samariaid Cymru fel eu helusen,” meddai llefarydd.
“Mae’r digwyddiad arloesol yma yn ceisio dod â phobol at ei gilydd i rannu profiad unigryw ac mae ganddo ffocws cryf ar gysylltu pobol.
“Dyma un o werthoedd craidd y Samariaid – credwn fod cysylltu efo pobol yn fodd cryf o amddiffyn pobl rhag risg hunanladdiad a chredwn y gall ddangos trugaredd newid ac achub bywydau.”
Manylion y sioe
Bydd perfformiadau Annwn yn cael eu cynnal yng Nghastell Caernarfon bob nos rhwng nos Wener, Hydref 27 a nos Sul, Hydref 29.
Bydd y perfformiad yn dechrau am 7 o’r gloch, gyda’r drysau’n agor am 6 o’r gloch, ac yn rhedeg yn ddi-stop tan tua 11 o’r gloch.
Mae tocynnau’n £20 (+ ffi archebu) i oedolion ac ar gael drwy wefan See Tickets, a bydd gostyngiad o 20% ar gyfer pob archeb o fwy na phedwar tocyn (£16 y pen + ffi archebu).
Mae tocynnau i blant dan 16 oed, pobol ddi-waith a phensiynwyr yn costio £10 (+ ffi archebu), ac mae mynediad am ddim i fabanod.