Mae cronfa newydd i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg ar gyfer y sgrîn fawr ryngwladol bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Bydd Sinema Cymru, sy’n gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol, yn cael ei darparu gan Ffilm Cymru, a’i nod yw datblygu o leiaf dair ffilm nodwedd y flwyddyn.

Y bwriad yw y bydd un o’r ffilmiau hynny’n cael ei datblygu ar gyfer cyllid cynhyrchu.

Mae’r gronfa gwerth £180,000 – sy’n cael ei hariannu gan Cymru Greadigol ac yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru – bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan wneuthurwyr ffilm profiadol o Gymru.

Mae hyd at £30,000 y prosiect ar gael yng ngham datblygu’r gronfa.

Rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map, drwy roi sbardun i ffilmiau Cymraeg annibynnol sy’n feiddgar ac anghonfensiynol, ac sydd â’r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol.

Mae’r rhaglen yn arbennig o awyddus i hyrwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli wrth bortreadu’r Gymraeg, a gwthio ffiniau’r hyn sy’n cael ei ddisgwyl gan ffilmiau Cymraeg.

“Mae’r gronfa yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu ffilmiau Cymraeg mwy annibynnol, sy’n hanfodol mewn cyfnod pan fo’r sector dan bwysau cynyddol, gan gynnwys gan rai o’r gwasanaethau ffrydio mawr,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru.

“Rydym am i’r gronfa ysbrydoli creadigrwydd, hyrwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a helpu i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg i’r byd.

“Edrychwn ymlaen at weld y syniadau amrywiol fydd yn deillio o’r rownd ariannu hon.”

Yn ôl Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, “mae sinema yn iaith fyd-eang sy’n cael ei rhannu ar draws y byd”.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni hyrwyddo a dathlu ffilmiau Cymraeg,” meddai.

“Bydd Sinema Cymru yn cefnogi ffilm Iaith Gymraeg annibynnol, gan ddatblygu syniadau a thalent, gan gryfhau’r sector ffilmiau Cymraeg a’i blatfform.”

‘Tu hwnt i rwystrau ieithyddol a daearyddol’

Yn ôl Gwenllian Gravelle, Pennaeth Sgriptio S4C, “mae sinema yn brofiad emosiynol a difyr, sydd yn mynd y tu hwnt i rwystrau ieithyddol a daearyddol”.

“Yn S4C, ein nod yw datblygu a chryfhau’r diwydiant yng Nghymru drwy greu ffilm Gymraeg bob blwyddyn; adeiladu catalog cadarn o ffilmiau i’w mwynhau heddiw a chan genedlaethau’r dyfodol,” meddai.

“Ein nod yw rhoi profiad sinematig o straeon Cymreig i’r gynulleidfa, wedi eu creu gan leisiau unigryw a chreadigol ein gwlad.

“Straeon pwerus sydd â theimlad lleol ond sydd ag apêl fyd-eang hefyd.”

‘Buddsoddiad parhaus erioed yn bwysicach’

Yn ôl Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu’r Gymraeg yn Ffilm Cymru, mae’r bartneriaeth gydag S4C a’r gronfa yn “chwarae rhan bwysig wrth feithrin a hyrwyddo talent o amrywiaeth o gefndiroedd”.

“Er y bydd holl gronfeydd ffilm Ffilm Cymru yn parhau i fod ar gael i brosiectau yn yr Iaith Gymraeg, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag S4C a Cymru Greadigol i gynnig arian wedi’i dargedu i’r rhai sydd am weithio yn yr iaith Gymraeg,” meddai.

“Mae ffilmiau annibynnol fel Gwledd, Y Llyfrgell a’r Ymadawiad (sy’n cael eu hariannu ar y cyd gan Ffilm Cymru ac S4C) yn chwarae rhan bwysig wrth feithrin a hyrwyddo talent o amrywiaeth o gefndiroedd.

“Gyda chynhyrchiad ffilm brodorol y Deyrnas Unedig yn dirywio ar draws y bwrdd, ni fu buddsoddiad parhaus darlledwyr cyhoeddus a’r Llywodraeth i leisiau sinematig Cymraeg erioed yn bwysicach.”