Drwy gydol yr haf, mae Leah Gaffey wedi bod yn actio’r brif ran yn addasiad Cymraeg o ddrama enwog Phoebe Waller-Bridge, Fleabag.

Ar ôl teithio ledled Cymru, mae’r cynhyrchiad yn dirwyn at ei therfyn yn Theatr Clwyd yr wythnos hon.

Mae’r ddrama wreiddiol yn ffenomenon, ar ôl cael ei throi’n gyfres deledu boblogaidd.

Dyma’r actor yn sôn am y profiad o berfformio’r ddrama – sy’n gyforiog o ddelweddau rhywiol carlamus, ar Faes yr Eisteddfod ac o flaen prifathro ei hen ysgol gynradd…


Yr her fwya’ i fi oedd gwybod bod pawb wedi gweld y cymeriad yma’n barod. Mae pawb oedd am ddod i weld y sioe efo rhyw ddisgwyliad. Un ai bod nhw wedi gweld y gyfres neu ddim, maen nhw’n dal yn gwybod pwy ydi hi. Chi’n mynd i gael rhyw fath o gysylltiad efo’r cymeriad yma rywsut. Mae hi ym mhobman.

Dyna oedd yr her fwya’, mynd i’r afael â chymeriad yr oedd pawb yn ei ’nabod mor dda. Felly roedd yn bwysig i mi wneud y cymeriad yn fi fy hun. Fy mod i ddim yn dynwared, ei fod yn gorfod dod ohonof i. Dyna oedd yr her fwya, ond dw i’n meddwl fy mod i wedi llwyddo.

Dw i wedi mwynhau pob eiliad o’r daith. Dw i wedi mwynhau gweithio efo (addasydd y ddrama) Branwen Davies a Sara Lloyd sy’n cyfarwyddo. A Garrin Clarke y Cyfarwyddwr Llwyfan. Mae gweithio efo Theatr Clwyd yn anhygoel – mae pawb wedi bod mor gefnogol.

Ymhle fu’r ymateb mwya’ diddorol?

Roedd yr Eisteddfod yn wahanol iawn. Ro’n i’n gallu gweld ymateb pawb, yn gweld wynebau pobol. Roedd o’n hwnna’n ddifyr. Ac anodd ar brydiau os ydach chi’n adnabod gormod o bobol gyfarwydd ac ry’ch chi’n sôn am eich twll tin! Dydi hynna ddim yn hawdd. Mae ymateb bob man wedi bod yn bril. Dw i wedi clywed pobol wedi bod yn gobsmacked efo’r pethau dw i wedi bod yn ei ddweud. Yn colli anadl dros y peth. Roedd o’n brofiad…

Mi wnes i wir joio Theatr Soar, roedd y staff yn hyfryd, ac i gyd yn sefyll ar eu traed ar y diwedd. Roedd hynna’n hollol hyfryd. Sbesial o le. Roedd yna lot o ddysgwyr yn Soar hefyd a oedd yn neis. Roedd cynulleidfa’r Torch yn Aberdaugleddau yn ymateb yn grêt… Roedd y laffs yn y Torch yn uchel iawn, a dw i ddim yn gwybod a oedden nhw yn chwerthin hefyd am fod gen i acen mor ogleddol, a fy mod i hyd yn oed mwy ffyni i bobol o’r de. Ella ddim.

Roedd y noson gyntaf yng Nghaerdydd yn amlwg yn anhygoel o brofiad achos maint y gynulleidfa oedd i mewn. Roedd bron 260 o gynulleidfa yn y noson gyntaf yn y Sherman. Pan ydych chi’n clywed gymaint o bobol â hynna yn chwerthin, mae o’n contagious. Yn lledaenu, ac yn uchel iawn. Roedd hwnna’n deimlad lyfli, fy mod i’n gallu gwneud i gynifer o bobol â hynna i chwerthin.

Roedd o’n hyfryd mynd i Neuadd Dwyfor, am fy mod i adra, a fy mod i wedi perfformio ar y llwyfan yna yn gwneud Lefel A. Roedd fy mhrifathro o’r ysgol gynradd, Ken Hughes, yn y rhes flaen. Ond do’n i ddim yn gallu gweld neb bron, mae’n dibynnu ar y goleuo.”

Soniodd yr addasydd Branwen Davies yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar ei bod wedi petruso am rai llinellau heriol yn y ddrama, am y bydden nhw’n cael eu hystyried yn arbennig o amhriodol heddiw, a bod y ddrama wedi’i sgrifennu dros 10 mlynedd yn ôl. Sut oeddet ti’n teimlo fel actor yn gorfod ynganu llinellau felly?

Mae o jyst yn adlewyrchiad o ble mae Fleabag arni mewn bywyd. Mae hi’n sâl. Mae hi wedi cael trawma, dydi hi ddim yn ok. Dydi hi ddim yn berson cas, mae hi’n ychydig bach yn sâl, yn rhan ohoni hi. Mae hi wedi colli ffrind, dydi hi ddim mewn lle da. Dydi o ddim yn esgusodi neb, a dwn i ddim a fyddai’n eu dweud nhw pe bai hi ddim mewn lle drwg. Ond dyna sut dw i’n ei weld o. … Dyna sut dw i’n gallu empathise-io efo hi. Dydi hi ddim mewn lle da.

Dywedodd Branwen Davies fod Phoebe Waller Bridge wrthi, “I just went for it“, heb ddal dim yn ôl, er mwyn ennyn ymateb y gynulleidfa…

Pan oedd Phoebe Waller Bridge yn dechrau sgrifennu Fleabag, roedd ganddi noson yn y Soho Theatre – hi a Vicky Jones o’u cwmni Dry Write. Roedd y cyfan roedden nhw’n ei sgrifennu a’i gyfarwyddo er mwyn trio cael y gynulleidfa i ymateb mor ofnadwy i rywbeth, fel eu bod nhw’n heclo’i gilydd. … Mae hi’n mynd o un peth mor poignant, ac mi ydach chi’n teimlo drosti, ac wedyn yn meddwl, ‘god, ti’n afiach o berson’ bron yn yr un frawddeg. Fel actor rydach chi’n teimlo hwnna yn y gynulleidfa. Dydi pobol ddim yn gwybod sut i ymateb.

Beth mae Fleabag yn trio’i wneud ydi trio cael cariad gan unrhyw berson, felly mae hi’n dweud pethe mewn ffordd ddoniol i gael ymateb. Mae hi’n eich cael chi i fynd o grio i chwerthin, i’w gael o’n anodd gwrando ar yr hyn sy’ ganddi i’w ddweud… Mae rhywun sy’n teimlo eu bod nhw eisio rhoi hyg iddi hi. Ond dy’n nhw ddim, achos dy’n nhw ddim yn gwybod a ydi hi’n eu leicio nhw. Mae hi’n mynd â chi ar uffar’ o rollercoaster o emosiynau.

Fel yna mae o’n teimlo i fi fel actor yn mynd drwy hyn mewn awr ac 20 munud.

Mae’r addasiad – sydd wedi symud y lleoliad o Lundain i Lerpwl – wedi gweithio’n Gymraeg, felly?

Dw i’n meddwl ei fod o’n gweithio’n grêt yn Gymraeg. Oedd rhywun wedi dweud wrtha i ei fod o’n braf, bod Fleabag ddim yn sôn dim byd am Gymry a bod yn Gymraeg. Ei bod hi’n addasiad o sioe Saesneg, ond ei fod yn braf cael sioe lle dydi eidentiti’r cymeriad ddim i gyd i wneud efo’r ffaith ei bod hi’n Gymraeg. Dyna pam ei fod o’n gweithio ei fod o wedi’i leoli yn Lerpwl.

Allai fod wedi’i osod yn rhywle yng Nghymru, ond mae’r ffaith bod Fleabag yn stryglo efo bod adra… ei hadra hi ydi Bangor, ond mae hi wedi bod drwy gymaint yn ei bywyd, wedi cael trawma… Mae hi wedi rhedeg i ffwrdd o’i phroblemau. Mae hi’n privileged o gymeriad, ond dydi o’n dal ddim yn dod i ffwrdd o’r trawma o golli ei mam a cholli ffrind yn ei 20au cynnar.

Dw i wedi mwynhau gwneud yr acenion hefyd. Roedd gen i hyfforddwr acenion, ac yn ymarfer y leins dros Zoom, a hi’n trio gwneud i’w phlant beidio â’u clywed!

Sut oedd perfformio hynna yn y Steddfod?

Wnes i ddim meddwl am y peth tan yr oeddwn i yn eistedd ac yn gweld lot o wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa. Ro’n i yn gallu gweld wynebau pawb yn yr Eisteddfod – do’n i ddim yn gweld wynebau neb yn y sioeau eraill. Am y tro cyntaf ro’n i wedi meddwl, ‘wy, mae’r sioe yma yn rude!’ Dyna’r tro cynta’ i fi feddwl hynny. Ro’n i wedi anghofio hynny yn y rihyrsal, ar ôl ei ddysgu mor dda.

  • Bydd Fleabag yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug o heno (nos Iau, Medi 28) tan nos Sadwrn (Medi 30)