Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r hawl i gynghorau sir y wlad reoli nifer yr ail dai yn eu hardal.
A Chyngor Gwynedd yw’r cyntaf i drafod rhoi’r hawl hwnnw ar waith.
Ddechrau’r wythnos hon roedd cynghorwyr yn gwyntyllu’r posibilrwydd o orfodi pobol sydd am droi cartref parhaol yn dŷ haf, i ofyn am ganiatâd cyn gwneud hynny.
Mewn sir lle mae yna tua 8,000 o dai haf, 3,600 o bobol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a 150 yn ddigartref, mae yn amlwg fod angen i’r cyngor sir weithredu.