Mae Nia Morais yn gobeithio tynnu ar hud a lledrith yr hen chwedlau i annog plant i farddoni…

Y dramodydd Nia Morais yw’r nesaf i ymgymryd â swydd ddifyr Bardd Plant Cymru. Mae ei chyfenw yn cael ei ynganu fel ‘Môr-aish’ ag ‘sh’ ysgafn, gan ei fod yn enw Portiwgaeg.