Ar eu sengl ddiweddaraf mae band pync ifanc o Gaernarfon a Môn yn gwneud hwyl ar ben stad wleidyddol y wlad.

Wedi iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf yn swyddogol ym mis Tachwedd y llynedd, mae Maes Parcio yn ôl gyda’r gân ‘Chwdyns Blewog’.

Maes Parcio:

Gwydion Outram – gitâr a phrif lais

Twm Evans – allweddellau

Owain Siôn – dryms

‘Mae chwdyns blewog am ein gwaed ni!’

O brotestio ar-lein i brocio meddyliau trwy gerddoriaeth, mae’r ieuenctid yn brysur yn herio gwleidyddion am stad y wlad. Maes Parcio yw’r band ifanc diweddaraf i rannu eu meddyliau am y byd gwleidyddol sydd ohoni heddiw, ar y sengl ‘Chwdyns Blewog’.

“Fel clywch chi o’r geiriau, mae o bron iawn mwy fel chant nag ydi o gân,” meddai Owain Siôn, sydd ar fin cwblhau ei arholiadau Lefel A, ac yn gobeithio astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl yr haf.

“Dydi’r geiriau ddim yn ddyfn a dydyn nhw ddim yn newid lot yn ystod y gân.”

Ar ‘Chwdyns Blewog’ mae Gwydion yn canu:

 

‘Hei, 

Yda chi ‘di clywed y si?

Mae chwdyns blewog ar ein holau ni.

 

Hei, 

Gwyliwch chi, 

Mae chwdyns blewog am ein gwaed ni!’

 

“Wnaethon ni ddod fyny efo’r syniad yma efo Gai Toms,” eglura Owain, “am y ‘chwdyns blewog’ yma, a throsiad ydy o – bosib am wleidyddion, bosib am y byd gwleidyddol. Y syniad yma o ddim ots ble rydan ni’n mynd rŵan, mae yna rywun unai’n trio cael pleidlais allan ohonom ni, neu’n trio ennill ni drosodd, neu maen nhw’n trio newid rhywbeth am yr ardal lle rydan ni’n byw.

“Mae’r gân yn sôn lot bod nhw yn dre ac ar y stryd… Mae o’n teimlo fel bod yna ryw ddadl yn mynd ymlaen yn gyson, efo’r rheiny sy’n meddwl mai nhw sy’n gwybod orau.

“Felly mae o jest yn rhyw fath o chant yn erbyn [gwleidyddion] a thrio cael pobol i ddeall bod yna lot o bobol allan yna sydd ddim efo ein diddordebau gorau ni yn eu meddwl nhw, ond bod nhw am wneud iddo edrych fel yna, yn amlwg.

“Cael hwyl ar ben y byd gwleidyddol a stad y wlad yma ydi’r gân.

“Rydan ni eisiau i’n caneuon ni – er i rai pobol ella bod o’n mynd i swnio’n basic – fod efo’r neges wleidyddol.

“A pha ffordd haws o gael neges drosodd i bobol ifanc na thrwy rywbeth bachog a byr?

“Rydan ni’n licio cychwyn setiau ni efo ‘Chwdyns Blewog’ oherwydd mae o’n llawn egni, mae o’n gyffrous ac mae o’n hwyl.

“Mae o’n hwyl gweld y gynulleidfa, ac yn bendant cynulleidfa ifanc, yn ymateb iddo fo ac yn rili joio fo, a ti’n gweld bod y neges yn mynd drosodd.

“Ond gobeithio bydd pobol yn mwynhau’r sengl yn fwy na thrio ei ddadansoddi fo ran be mae o’n feddwl.

“Unwaith rydych chi’n deall be ydy ‘chwdyns blewog’, dw i’n meddwl bod gennych chi’r gist.

Gwydion: “Mae gennym ni ryw un neu ddau gân serch yn y set hefyd…

“Mae gennym ni un gân cheesy, ond cheesy ar bwrpas.

“Dw i fel arfer yn sgrifennu’r geiriau a’r cordiau sylfaenol ac wedyn rydan ni’n dod at ein gilydd a jamio, ond wnes i sgrifennu’r geiriau i honna pan o’n i yn flwyddyn saith.”

Mae’r canwr bellach ym Mhrifysgol Bangor ar gwrs Astudiaethau Creadigol.

Ffrwyth ‘Marathon Roc’

Daeth Maes Parcio at ei gilydd yn ystod prosiect ‘Marathon Roc’ Galeri Carnarfon yn 2018, ble cafodd y tri eu rhoi mewn band dan arweiniad Osian Williams (Candelas), Branwen Williams (Siddi) a Gai Toms. Gyda help llaw’r cerddorion, aeth y band ati i sgrifennu a recordio, ac o’r cyfnod cychwynnol yma daeth ‘Chwdyns Blewog’.

Owain: “Rhyw wythnos neu dridiau o gwrs oedd y Marathon Roc ac roedd dau ohonom ni, Gwydion a Twm, yn nabod ei gilydd ac yn mynd i Ysgol Syr Hugh Owen [Caernarfon].”

Gwydion: “Ro’n i wedi bod yn yr ysgol gynradd ac uwchradd efo Twm ac yn ffrindiau da, ond wnaethon ni glicio’n syth efo Owain.”

Owain: “Felly dros y tridiau yna wnaethon ni weithio efo Osian, Branwen a Gai Toms i weithio ar set fach 20 munud, mwy neu lai, a pherfformio ar ddiwedd yr wythnos.”

Fodd bynnag, doedd perfformio ddim yn newydd i un aelod.

Gwydion: “Ro’n i wedi bod yn canu ac yn bysgio rownd Caernarfon efo gitâr acwstig ers blwyddyn saith.

“Ond doeddwn i heb wneud dim byd mewn band cyn y Marathon Roc.

“Roedd o’n class cael sgrifennu miwsig efo pobol eraill yn lle jest ar ben fy hun, a gwneud ffrindiau.”

Owain: “Roedd y Marathon Roc yn brofiad ffantastig.”

Gwydion: “A phum mlynedd wedyn rydan ni dal efo ein gilydd fel band.”

Owain: “Aeth yna gwpl o fisoedd heibio ar ôl gwneud y Marathon Roc a wnaethon ni feddwl: ‘Duwcs, waeth i ni gario ymlaen’.

“Fe gawson ni’r cyfle i recordio ‘Chwdyns Blewog’ ar gychwyn 2019 – hwnna oedd y cyntaf i ni erioed recordio ac efo Osian [Candelas] yn ei stiwdio o.

“O hynny ymlaen wnaethon ni benderfynu trio gwneud rhywbeth ohono fo.

“Ond rydan ni gyd yn gwybod sut aeth dechrau 2020 pan ddaeth popeth i stop.

“Felly ers tua Mehefin diwethaf rydan ni wedi bod yn ôl go-iawn, pan wnaethon ni chwarae Gŵyl Triban y llynedd.

“Roedd o’n gig mor fawr i fod yn ôl efo, ond wnaethon ni jest joio cael bod yn ôl yn fwy na dim.

“Roedd o’n brofiad eithaf od, ond wnaethon ni rili hit the swing wedyn erbyn gweddill yr haf.”

Mae’r ddau’n cytuno bod ymuno â label INOIS wedi bod yn gymorth iddyn nhw ailsefydlu’r band ar ôl Covid.

Owain: “Ar yr adeg yna pan wnaethon ni chwarae Triban roedden ni wedi bod yn siarad lot efo Hedydd Ioan ac Osian Cai ac roedden nhw wrthi’n sefydlu label INOIS.

“Trwy gysylltu efo INOIS rydan ni wedi, mwy neu lai, achub y band o fynd yn angof, ac wedi rhoi’r ddwy sengl yma allan efo nhw rŵan.”

Gwydion: “Wnaeth INOIS roi ail fywyd i’r band.

“Mae Hedydd ac Osian yn gwneud job rili da, chwarae teg.”

Green Day a’r Beatles yn chwarae eu rhan

Pync ydy pethau hogiau Maes Parcio ers eu plentyndod, medden nhw, ac o’r genre yna y daw’r rhan fwyaf o’u dylanwadau.

Owain: “Yn yr ystyr mwyaf sylfaenol, band pync fysa ni’n disgrifio ein hunain fel.

“Ond waw, mae dylanwadau ni’n eang o fewn hynna.

“Rydan ni’n trio chwarae o gwmpas mwy efo pync, pync-roc a phop-pync mwy rŵan.

“Mae Gwydion yn taeru efo fi mai dyna ydy pync – bod o’n ambiguous o genre neu label.”

Gwydion: “I fi mae pync yn fwy na jest y miwsig.

“Dydy o ddim jest am y miwsig, mae o am bob dim sy’n cyd-fynd efo fo, ac mae yna sŵn sy’n amrywio o fewn iddo fo.”

Owain: “Rydan ni gyd wedi tyfu fyny efo lot o roc Cymraeg o gwmpas y tŷ, ond mae Gwydion wedi cael ei hudo gan sŵn Green Day.”

Gwydion: “Ia, fyswn i’n dweud mai prif ddylanwad fi ydy Green Day.

“Nhw oedd y band cyntaf i fi ffeindio ar ben fy hun heb help dad, felly nhw oedd bob tro yn fy nghalon i.

“Nhw wnaeth arwain y ffordd at y miwsig dw i’n gwrando ar dros y blynyddoedd diwethaf.”

Owain: “Felly fydd lot o stwff newydd fydd yn dilyn y ddwy sengl yma yn bendant yn cymryd trywydd bach mwy fel yna, yn fwy cyflym a thrwm o bosib.”

Gwydion: “Dw i hefyd yn joio band o Wrecsam o’r enw Neck Deep – maen nhw’n mwy pop-pync – a band o America, Social Distortion, a’r clasuron fel y Beatles a’r Rolling Stones.

“Ac yn amlwg Yr Anhrefn o’r Sîn Roc Gymraeg – dw i’n gweld nhw fel godfather y sîn pync.

“Ond y dylanwad mwyaf o’r rheiny dw i’n clywed yn ein miwsig ni ydi alawon y Beatles.

“Mae alawon nhw mor anhygoel a fyswn i’n dweud bo fi’n licio alaw fach dda, felly’r alawon sy’n dod trwodd fwyaf dw i’n meddwl.”

Symud at sŵn ‘twtsh yn wahanol’

Byddwch yn barod i glywed mwy gan Maes Parcio dros y misoedd nesaf wrth iddyn nhw fynd ati i recordio tiwns yn y stiwdio a pharatoi i gigio dros yr haf.

Owain: “Ar y funud rydan ni’n gorfod cymryd rhyw fath o frêc gorfodol o recordio a gigio oherwydd arholiadau, ond fydd yna’n bendant mwy o senglau allan dros yr haf.”

Gwydion: “Rydan ni newydd fod yn y stiwdio yn recordio mwy o diwns, felly rydan ni’n gobeithio gallu rhyddhau’r rheiny yn fuan.”

 Owain: “Rydan ni’n rili edrych ymlaen i bobol gael clywed.

“Ro’n i’n teimlo bod o’n bwysig cael y ddwy sengl yma allan i bobol gael clywed be wnaeth gychwyn ni ffwrdd, ond bydd beth bynnag fyddwn ni’n rhyddhau dros yr haf yn cymryd sŵn twtsh yn wahanol.”

Mae ‘Chwdyns Blewog’ ar gael i’w ffrydio nawr a bydd Maes Parcio i’w gweld nesaf yn un o gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.