Dynes â’i gwreiddiau yn Sir Gaerfyrddin oedd y person cyntaf i dyngu llw yn Gymraeg wrth gael ei gwneud yn Faer dinas fawr Sheffield.

Mae cyfnod Sioned-Mair Richards fel Arglwydd Faer y ddinas sy’n gartref i 854,200 o bobl newydd ddod i ben.

Mi ddefnyddiodd y Gymraes ei theyrnasiad yno fel cyfle i hyrwyddo’i hiaith a’i diwylliant dros y flwyddyn ddiwethaf.