Mae’r diddanwr a digrifwr Tim Brooke-Taylor wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yn 79 oed.
Daeth cadarnhad o’r newyddion gan ei asiant mewn datganiad.
Yn ystod ei yrfa, fe weithiodd ym meysydd teledu, radio, theatr, ffilm a llenyddiaeth, ac fe ddywedodd ei asiant ei fod e “wedi ymgymryd â’r cyfan ag egni a synnwyr hwyl arbennig”.
Ymhlith y rhaglenni mae’n fwyaf enwog amdanyn nhw mae The Goodies ac I’m Sorry I Haven’t a Clue.
Yn ôl ei asiant, fe fyddai’n “trin ei gefnogwyr yn hwyliog, hyd yn oed ar ôl ymarferion a sesiynau recordio hir a blinedig”.
“Roedd e’n gleient rhagorol ac yn bleser i’w gynrychioli,” meddai wedyn.
“Rydym yn ddiolchgar fod gennym gymaint o’i waith i’w wylio, ei ddarllen a gwrando arno.”
Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi iddo gan ddigrifwyr fel Jack Dee, Ross Noble, Marcus Brigstocke, a hefyd Sioned Wiliam, Golygydd Comisiynu Radio 4.