Mae’r artistiaid Cymraeg fydd yn perfformio yng Ngŵyl Ymylol Abertawe wedi’u cyhoeddi.
Mae’r ŵyl, sy’n cael ei threfnu gan y Swansea Music Hub, wedi’i chynnal yn ei ffurf bresennol ers 2017, ac mae wedi’i chefnogi eleni gan 4TheRegion, Coastal Housing Group, PRS for Music, a Swansea Arena Creative Learning.
Mae Menter Iaith Abertawe wedi bod yn arwain ar brosiect sydd wedi’i ariannu gan y Tŷ Cerdd, er mwyn rhoi llwyfan i fwy o berfformwyr Cymraeg.
Fel rhan o’r prosiect hwnnw, bydd setiau gan sêr newydd megis Francis Rees, Tesni Hughes a Dafydd Hedd.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Hydref 5-7.
Ar y noson gyntaf (nos Iau), bydd y noson lansio’n serennu Angharad ac Edie Bens, wedi i’r ddwy perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, yn ogystal â setiau gan Mali Hâf, Achlysurol a Charlie J.
Perfformiadau ar draws y ddinas
Ar y nos Wener, bydd llwyfan o gerddoriaeth fyw a chomedi mewn amryw o leoliadau ar draws y ddinas.
Bydd The Bug Club, sy’n ffefrynnau ar BBC Radio 6, yn perfformio yn y Bunkhouse yn dilyn haf prysur o gigio a theithio ledled Ewrop, America a Chanada.
Bydd noson o roc caled a metel yn Hangar 18, yn cynnwys Lurcher a’r arwyr lleol, Vails.
Bydd noson enfawr ar y Stryd Fawr hefyd, gyda cherddoriaeth fyw yn theatr y Volcano, Hippos, a’r Elysium.
Bydd arlwy’r Elysium yn cynnwys setiau gan Monet a Slate cyn iddyn nhw chwarae yng ngŵyl Sŵn Caerdydd eleni, ac mae’r Volcano yn gweld llwyfan dwyieithog ar y cyd rhwng Menter Iaith Abertawe a’r Fringe, yn cynnwys SYBS, Aisha Kigs, Part Time Signals, ac Elli Glyn.
Bydd Urban HQ ar Stryd Orchard yn gartref i noson gomedi’r ŵyl gyda Josh Elton, Gilly Webb a Welsh Jesus, ymysg nifer o enwau eraill.
Ar y nos Sadwrn, bydd llwyfan gwerin boblogaidd yr ŵyl yn dychwelyd i’r Elysium, gyda lein-yp sy’n cynnwys Rona Mac, Old Moll ac Orange Circus.
Mae lein-yp Tŷ Tawe yn cynnwys Band Pres Llareggub – band pres o ogledd Cymru wedi eu hysbrydoli gan hip-hop y Bronx a cherddoriaeth New Orleans – yn ogystal â Mr Phormula, sydd wedi cydweithio gyda sêr y byd hip-hop, megis The Pharcyde, Jungle Brothers a KRS-One.
Bydd mwy o hip-hop ar gael yn Hippos, diolch i lwyfan gan Winger Records, tra bydd Hangar 18 a Crowleys yn gartref i lwyfannau pync ac indie, yn cynnwys Kneeon, Shlug, Swan Hill, a Two Til Twelve ymysg nifer o enwau eraill.
Bydd llwyfan roc ac electronica arbrofol y Bunkhouse yn gweld talentau lleol megis Grey FLX a Kikker, ochr yn ochr ag artistiaid sydd eisoes yn derbyn clod ar draws y byd, megis Gallops a Brecon.
‘Safon uchel dros ben ac amrywiaeth’
Fe wnaeth bron i 200 o artistiaid ymgeisio am le yn yr ŵyl eleni, yn ôl y trefnwyr, sy’n canmol “safon uchel dros ben ac amrywiaeth” y perfformwyr.
Mae hynny’n “dangos bod yr ŵyl wedi sefydlu enw da am drefnu penwythnos anhygoel o gelfyddydau a diwylliant”, yn ôl Josh David-Read.
“Rydym yn falch iawn o’r lein-yp eleni, a fydd yn gweld artistiaid byd enwog megis The Bug Club, Edie Bens, Gallops, a Brecon yn chwarae ochr yn ochr ag artistiaid sydd wedi bod trwy’r broses ymgeisio i fod yn rhan o’r ŵyl,” meddai.
“Mae rhai o’r artistiaid yma yn teithio ar draws y byd, ond mae ganddyn nhw i gyd gysylltiadau cryf â Chymru, sy’n bwysig iawn i ni fel trefnwyr.”
- Mae modd prynu tocynnau drwy’r wefan www.ticket247.co.uk