Mae’r arolwg mwyaf o’i fath wedi canfod fod 53% o gerddorion yn cynnal eu gyrfa trwy ennill incwm y tu allan i gerddoriaeth.
Roedd 5% o’r rhai wnaeth ateb yn dod o Gymru.
Mae 62% o’r cerddorion wnaeth ateb yn cynhyrchu arian ychwanegol o gyflogaeth amgen, ond mae ffynonellau cymorth ariannol eraill yn cynnwys cefnogaeth gan deulu a ffrindiau (14%), a Chredyd Cynhwysol neu fuddion eraill (12%).
Mae 75% o’r rhai sydd ag incwm arall yn ogystal â cherddoriaeth yn dweud eu bod nhw ond yn ceisio’r gwaith hwn am resymau ariannol.
Cafodd yr ymchwil ei chynnal ar y cyd gan yr elusen Help Musicians ac Undeb y Cerddorion, gan holi bron i 6,000 o gerddorion o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.
Er mwyn sicrhau iechyd, lles ac amrywiaeth y diwydiant cerddoriaeth, maen nhw’n dweud bod angen “parhau i fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau sy’n cael eu hadrodd gan gerddorion, a brwydro i ddiogelu’r mecanweithiau a’r darpariaethau sy’n galluogi cerddorion i ffynnu yn eu gyrfaoedd”.
‘Dim llawer o amser’ i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth
Daeth yr ymchwil i’r casgliad mai £20,700 yw incwm blynyddol cyfartalog cerddorion.
Dywedodd 23% o gerddorion nad ydyn nhw’n gallu cefnogi eu hunain na’u teuluoedd drwy fod yn gerddor yn unig.
Ar ben hynny, dywedodd 17% o gerddorion ar y cyfan eu bod nhw mewn dyled, a dywedodd 30% o gerddorion fod ganddyn nhw gyflwr meddwl iechyd.
Mae llai na hanner (40%) y cerddorion yn ennill eu holl incwm o gerddoriaeth, ac o’r rhai sydd yn gwneud hynny, eu hincwm blynyddol cyfartalog yw £30,000.
“Mae’n rhaid i mi dreulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn gweithio mewn swyddi eraill i ennill arian, felly does dim llawer o amser ar ôl i ddilyn fy ngyrfa,” meddai un ddynes 24 oed o Lundain.
Ychwanegodd cerddor arall eu bod yn “dibynnu ar waith llawrydd ar gyfer perfformio, gall hyn fod yn achlysurol ac mae cyfleoedd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf”.
“Mae cynnydd mewn cyfrifoldeb ariannol a gofalu yn golygu ei bod hi’n anodd goroesi fel gweithiwr llawrydd nawr,” meddai.
“Nid yw cerddoriaeth yn darparu incwm sefydlog ac felly mae dilyniant yn aml yn cael ei arafu gan fod angen treulio amser ar waith arall i wneud bywoliaeth,” meddai cerddor arall.
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae’r ymchwil hefyd yn nodi bod gan ddynion enillion uwch o’r rhai sy’n ennill £34,000 neu fwy’r flwyddyn na grwpiau rhywedd eraill.
Dim ond 3% o gerddorion sy’n dweud eu bod yn ennill £70,000 neu fwy drwy gerddoriaeth bob blwyddyn, ac mae 79% o’r rhain yn ddynion.
Serch hynny, mae dynion a menywod yn cael eu talu’n gyfartal hyd at ennill incwm blynyddol o £34,000.
Ymhlith y cerddorion sy’n ennill 100% o’u hincwm drwy gerddoriaeth, mae amcangyfrifon yn awgrymu bod bwlch cyflog o £4,000 rhwng dynion a menywod hunangyflogedig, a bod bwlch cyflog o £2,000 rhwng dynion a menywod mewn cyflogaeth llawn amser yn y diwydiant.
Bwlch cyflog: Anabledd
Dim ond traean o gerddorion ag anableddau sy’n ennill eu holl incwm drwy gerddoriaeth, ac mae bwlch cyflog o ryw £4,000 rhwng cerddorion ag anableddau a cherddorion heb anableddau sy’n ennill eu holl incwm o gerddoriaeth.
Mae 30% o gerddorion sydd â chyflwr iechyd meddwl yn dweud eu bod nhw mewn dyled.
Dim ond tua 25% o gerddorion ag anableddau nododd eu bod nhw’n derbyn budd-dal y wladwriaeth, credydau treth neu gymorth arall gan y llywodraeth ar hyn o bryd.
“Mae angen cymorth arna i nawr i yrru a chario offer, ond fel perfformiwr unigol mewn genre sy’n eithaf gwahanol, dyw’r ffioedd byth yn ddigon i gefnogi rheolwr taith neu roadie,” meddai un cerddor.
Blwch cyflog: Ethnigrwydd
Daeth i’r amlwg hefyd fod bwlch cyflog o bron i £1,000 rhwng ymatebwyr â chroen gwyn a’r rhai o gefndiroedd Affricanaidd, Asiaidd, cynhenid, neu dreftadaeth ddeuol.
Er bod 43% o’r ymatebwyr gwyn yn ennill 100% o’u hincwm drwy gerddoriaeth, dim ond 32% o gerddorion o gefndiroedd Affricanaidd, Asiaidd, cynhenid, neu ddeuol-dreftadaeth sy’n gallu dweud hynny.
“Mae’n aml yn teimlo pan mae’n bryd talu arian, mae rheolaeth a labeli yn ei chael hi’n haws gwneud hynny gyda pherson gwyn sy’n syth o’r brifysgol heb unrhyw brofiad na pherson du sydd â hanes a phrofiad i wneud y gwaith,” meddai un.