Wrth feddwl am sîn lenyddol Wrecsam, yr hen dref a’r ddinas-sir, mae’n debyg mai’r enw cyntaf ddaw i’r meddwl yw Aled Lewis Evans. Mae hyn yn wir yn y Saesneg hefyd, â dweud y gwir, ond yn arbennig yn y Gymraeg.

Wrth gwrs, mae ambell i fardd a llenor Cymraeg arall wedi gwneud eu marc – I.D. Hooson, Geraint Bowen, Bryan Martin Davies, Les Barker, Grahame Davies, Gwynne Williams, Geraint Løvgreen, Siôn Aled Owen, David Subacci, Tesni Peers, Huw Jones… (a Sara Louise Wheeler?!).

Ond heb os nac oni bai, mae’n ddigamsyniol mai’r bardd a llenor sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i hybu’r celfyddydau yn Wrecsam dros o leiaf bedwar degawd yw Aled Lewis Evans.

Fe fu Aled yno trwy’r cyfnodau tywyll hynny pan nad oedd Wrecsam yn lle ‘cŵl’ i fod, ac yn enwedig i fod yno ac yn sgwennu ac yn ‘creu’.

Ac yn awr, wrth i seithfed dinas Cymru fynd o nerth i nerth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2025 ar y gorwel, mae’n teimlo fel yr amser mwyaf priodol i dalu teyrnged i’r enaid addfwyn hwn sydd wedi rhoi cymaint i ni fel cymuned.

Perthynas â’r dirwedd

Mae ystâd Erddig yn cynnwys plasty mawr lle bu’r teulu bonheddig Yorke yn byw hyd at 1973, pan gafodd y cyfan ei drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Philip Scott Yorke. Cafodd tafarn yng Nghoed-y-glyn, ‘The Squire Yorke’, ei henwi ar ôl y sgweier olaf yma.

Mae Erddig yn ei chyfanrwydd yn rhan annatod o dirlun Wrecsam ac o’i thrigolion. Difyr, felly, oedd darllen cerdd gan Aled, sy’n hel atgofion am ei fam fu’n gweithio ym mhlasty Erddig.

Erddig

Mae’r lôn yn ôl drwy erwau’r stad

yn hirach na ‘dwi’n gofio,

hyd nes gweld y colomendy cyfarwydd,

a’r perllannau muriog.

Clywaf dy lais di’n syth,

yn gweiddi o’r gegin

yn croesawu’r Cymry.

Mam.

Ti oedd eu cyswllt cyntaf

yn tywys yng nghegin ‘Waste not. Want not.’

 

Er i flynyddoedd fynd heibio,

fe rown unrhyw beth

i eistedd ar fainc dawel efo ti,

plethu breichiau, a sgwrsio eto,

fel yn y llun gwanwynol sydd gen i,

Minnau’n denau mewn denim.

Croesawai Mam bawb efo’i gwên

a hyd goridorau’r gweision

byddai’n rhoi winc i’r portreadau

bob un â’u cerddi,

ac agor drysau rhwng coridorau cudd

fel consurwraig.

Tywyll heno yw capel teuluol Yorke,

awyr gyforiog yn taenu ei chysgod pŵl

dros atgofion sy’n gyfarwydd.

Pan ddeuwn i’w hebrwng adre o’r gwaith

agorai lidiart ei chalon,

a gadael i mi fynd drwy ddrws ochr ei hymddiried.

Er bod hyn ddegawdau’n ôl,

ei gwen sy’n dal i gribinio’r llwybrau

a sionci dros gamfeydd pob tymor newydd.

Ar ddiwrnodau tawelach

dof i Erddig i’w chyfarfod eto,

ac i gyfarfod fy hunan

yng nghaffi’r dyddiau da.

Codi rhwystrau’r ffenestri rhag yr haul

i ganfod ymddiried dy lygaid,

dy gynhesrwydd a’th dynnu coes.

Seinia clychau’r morynion

drachefn yn y coridorau,

yn galw am dy wen nad yw byth yn pylu.

Meddyliais wrth ddarllen y gerdd fod ei fam wedi bod yn forwyn, ond doedd y llinell amser ddim yn ffitio rywsut.

“Roedd Mam yn tywys pobol o gwmpas y tŷ, ar ôl iddo ddechrau yn 1977 fel un o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol,” meddai Aled pan holais i am gefndir y gerdd.

“Hoffai y cyfle i groesawu pobol yn y Gymraeg.”

Mae’n ymddangos fod helpu pobol a hybu’r Gymraeg yn rhedeg yn y teulu, felly.

Y Gymraeg

Bu Aled wrthi’n sgwennu deunydd newydd yn Gymraeg i ni ’nôl yn y 1990au, pan oeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd.

Ni fu Aled fyth yn athro arna i, ond dwi’n cofio cael gwaith cartref i ddehongli un o’i straeon byrion, ac aethom yn syth ato ar y coridor ar ôl y wers, i geisio gwirio ein dehongliadau!

Buodd wrthi’n barddoni am ein tafodieithoedd niferus yn ardal Wrecsam, ac am y berthynas letchwith a chymhleth sydd gan y rhan fwyaf ohonom hefo’r Gymraeg.

Bu Aled yn gweithio i Sain y Gororau, ac fe drefnodd ran helaeth o ddigwyddiadau llenyddol y fro.

Crefydd a chymuned

Mae Aled wastad wedi ymwneud â’r capeli yn Wrecsam, yn enwedig Capel y Groes. Er nad ydw i’n berson crefyddol fy hun, mae’n rhaid i mi edmygu ei ymroddiad i helpu pobol ac i gadw’r sefydliadau perthnasol i fynd.

Yn ddiweddar, trefnodd o banel ‘Beirdd y ffin’ fel rhan o gynhadledd Undeb yr Annibynwyr yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog; noson gyfeillgar a chefnogol i ni gael rhannu ein gwaith.

Ac wrth i mi ei holi fe am luniau i fynd hefo’r erthygl hon, atebodd y byddai’n mynd ati i chwilio ar ôl cyrraedd adref o “ddau bwyllgor yn y capel”. Dwi’n blino wrth feddwl am y fath beth!

Cafodd Aled ei urddo yn ddiweddar yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, gafodd ei chynnal tu fa’s i’r Stiwt. Ei enw barddol oedd ‘Aled o’r Gororau’, sy’n ddigon teg. Ond i mi, a sawl un arall mae’n siŵr, mae yna enw barddol arall sy’n addas iddo, sef ‘Aled, bardd Wrecsam’.