Mae un o barciau antur gwyrdda’r byd yn bwriadu drilio 250 troedfedd i lawr yn y ddaear i ddod o hyd i’w cyflenwad dŵr eu hunain.
Mae disgwyl i ddŵr o’r twll turio ym Mharc Teulu Gelli Gyffwrdd yn y Felinheli yng Ngwynedd ddechrau llifo erbyn y Pasg.
Mae’r darganfyddiad yn cyd-fynd â phen-blwydd y Ddraig Werdd – unig rollercoaster carbon sero’r byd, sy’n teithio ar hyd trac 250 metr trwy goedwigoedd y parc – yn ugain oed.
Ysgogodd cymwysterau ecogyfeillgar cynyddol y parc ymweliad gan aelodau Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru, fu yno ar daith canfod ffeithiau i weld y chwyldro gwyrdd ar waith.
Prinder cyflenwad dŵr
Yn anarferol ar gyfer atyniad yng ngogledd-orllewin Cymru, mae prinder dŵr wedi bod yn broblem yn y parc, gyda phob ymwelydd – tua 2,000 o bobol y dydd ar anterth y tymor – yn defnyddio hyd at bymtheg litr o ddŵr yr un.
“Mae’r twll turio wedi’i osod gan Dragon Drilling o ardal Corwen ac maen nhw’n dweud bod digon o ddŵr yno a bod y pwysedd a’r ansawdd ymhlith y gorau maen nhw wedi’i wneud,” meddai Andrew Baker, Rheolwr Masnachol a Datblygu’r parc.
“I mi, mae’n gam naturiol i ddod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy trwy suddo ein twll turio ein hunain.
“Mae’n fuddsoddiad o tua £50,000 a bydd yn darparu ar gyfer y rhan fwyaf o’n hanghenion dŵr i’r dyfodol, er y byddwn yn dal i fod ynghlwm wrth y rhwydwaith cyflenwi dŵr.
“Ry’n ni mewn lleoliad anodd yma oherwydd yn hafau’r gorffennol mae’r llif wedi bod ychydig yn araf o ran pwysedd.
“Yn ogystal â lleddfu’r broblem honno, bydd hyn yn lleihau’r biliau mawr cysylltiedig – rydyn ni’n edrych ar arbediad o £40,000 yn y flwyddyn gyntaf felly mae hynny’n elw cyflym iawn ar fuddsoddiad.
“Mae’n mynd i fod o help mawr ar adeg pan fo costau cyfleustodau yn parhau i gynyddu.
“Pa bynnag ffordd rydych chi’n edrych arno, mae’r prosiect hwn werth chweil oherwydd mae’n gweithio ar bob lefel.
“Yn ogystal â’n gwneud ni’n wyrddach, mae’n ein helpu i wneud elw.
“Yn Gelli Gyffwrdd, rydym yn credu bod pobol yn cael eu denu gan ein cymwysterau amgylcheddol a gyda chynlluniau newydd i agor am fwy o amser i fisoedd tawel y flwyddyn, ac rydym yn anelu at gynnydd o 10 y cant yn nifer yr ymwelwyr.”
Y parc ‘degawdau o flaen ei amser’
Bu rhai o aelodau Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru ar ymweliad yn y parc yn ddiweddar, gan gynnwys Ashley Rogers, Prif Weithredwr Cyngor Busnes Gogledd Cymru, sy’n arwain y rhwydwaith.
“Mae’n anhygoel mai dim ond yn awr mae’r byd yn dal i fyny gyda Pharc Teulu Gelli Gyffwrdd oherwydd bod y lle hwn ddegawdau o flaen ei amser pan agorodd,” meddai.
“Mae hon yn enghraifft wych o fusnes nad yw erioed wedi cyfaddawdu ar ei ethos gwyrdd o adeiladu rollercoaster sy’n pweru ei hun 20 mlynedd yn ôl, i fod yn eithaf hunangynhaliol mewn trydan, i ddrilio twll turio eleni.
“Mae’n fusnes sy’n gynaliadwy o’r bôn i’r brig ac mae’n siŵr ei fod yn un o’r atyniadau ymwelwyr gwyrddaf yn y byd.
“Mae gan Continuum weledigaeth anhygoel a byddwn yn rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ar yr ymweliad hwn â gweddill Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru.”
Bu Gareth Jones, Llysgennad Sero Net Gogledd Cymru, arbenigwr ynni adnewyddadwy a Rheolwr Gyfarwyddwr y Grŵp Carbon Sero, ar ymweliad hefyd.
“Rydw i wedi ymweld o’r blaen gyda fy nheulu ac mae’n wych gweld sut maen nhw’n parhau gyda gwaith gwych y perchnogion a’r sylfaenwyr blaenorol,” meddai.
“Yn sicr mae wedi bod yn fformiwla lwyddiannus yn y gorffennol ac mae’r perchnogion newydd yn parhau efo hynny ac yn adeiladu ar y gwaith hwnnw a oedd flynyddoedd o flaen ei amser.
“Doedd yr hyn wnaethon nhw ddim yn rhy gymhleth ond mae wedi goroesi dros amser ac mae yna bethau yma sy’n unigryw yn y byd nid yn unig yng ngogledd Cymru.
“Rydych chi’n meddwl tybed faint o ynni y byddai wedi ei gymryd i weithio rollercoaster y Ddraig Werdd dros yr ugain mlynedd diwethaf a faint maen nhw wedi ei arbed o ganlyniad i’w ddyluniad pŵer sero.
“Mae’n anhygoel mewn gwirionedd ac mae’n rhaid bod yr arbedion carbon yn enfawr hefyd.”