Rhaid i’r holl arian ar gyfer rhoi codiad cyflog i athrawon ddod gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Sir Gaerfyrddin dros Addysg, mae dau godiad cyflog ychwanegol o 1.5% yn golygu bod rhaid i’r cyngor ddod o hyd i £3m arall.

Bydd cynghorydd Plaid Cymru’n gwneud yr alwad i Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, gerbron y Cyngor llawn heddiw (dydd Mercher, Ionawr 24).

“Dylai Llywodraeth Cymru ariannu’r codiadau cyflog yn llawn er mwyn osgoi rhoi pwysau pellach ar Awdurdodau Lleol a’i sgil effeithiau ar gyllidebau ysgolion, sydd eisoes yn hynod o dynn” meddai.

Sefyllfa “anghynaladwy”

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan undeb arweinwyr ysgol NAHT Cymru ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 23), maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r codiad cyflog yn llawn.

“Maen nhw wedi disgrifio’r methiant i ariannu’r dyfarniad cyflog yn llawn fel ‘ergyd drom’ – i ysgolion ac i bob awdurdod lleol,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, fydd yn eilio’r cynnig.

“Mae’r undeb yn adleisio’r hyn rydym ni’n ei gredu, sef bod y sefyllfa druenus hon yn deillio o doriadau cyson yng nghyllideb Cymru gan Lywodraeth San Steffan.

“Fel cyngor, rydym ni yn Sir Gâr tua £120m ar ein colled mewn termau real ers i’r Llywodraeth Dorïaidd lansio eu strategaeth llymder dros ddegawd yn ôl.

“Mae’r sefyllfa yn ein hysgolion a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn prysur fynd yn anghynaladwy.”

‘Ail-flaenoriaethu cyllid’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ail-flaenoriaethu cyllid i gynyddu grantiau ganddyn nhw sy’n mynd yn uniongyrchol i ysgolion.

“Mae agenda o gyni cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu bod pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol.

“Dyna pam y gwnaethom ddarparu cynnydd sylweddol o 7.9% i gyllidebau awdurdodau lleol yn 2023-24, ac rydym wedi diogelu’r cynnydd dangosol o 3.1% yng nghyllideb ddrafft 2024-25.

“Felly, dylid ystyried talu cost y dyfarniad cyflog athrawon o 5% o fis Medi 2023 yn y cyd-destun hwn.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n dysgwyr.”