Mae meddygon ymgynghorol ac arbenigol yng Nghymru wedi dechrau pleidleisio i benderfynu a fyddan nhw’n streicio dros dâl ai peidio.
Ers 2008-09, mae cyflogau meddygon ymgynghorol a meddygon SAS (Arbenigwyr, Arbenigwyr Cyswllt ac Arbenigedd) wedi gostwng gan bron i draean.
Bydd y bleidlais ar agor i holl feddygon ymgynghorol a meddygon SAS Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) am chwe wythnos tan Fawrth 6.
Fe wnaeth y BMA wrthod cynnig cyntaf a therfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer codiad cyflog ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn gofal eilaidd.
‘Gwaeth nag erioed’
I feddygon ymgynghorol a meddygon SAS ar gytundebau caëedig, roedden nhw’n cynnig codiad cyflog o 5%, tra bo meddygon SAS ar gytundebau mwy diweddar yn cael cynnig o 1.5%.
Yn sgil hynny, penderfynodd y BMA gynnal pleidlais dros streicio.
“Does yna’r un meddyg eisiau streicio, ond mae blynyddoedd o danfuddsoddi sylweddol yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’n harwain ni yma,” meddai Dr Stephen Kelly, cadeirydd pwyllgor meddygon ymgynghorol BMA Cymru.
“Gyda rhestrau aros cynyddol, mae’r galw wedi gor-ymestyn capasiti’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymreig yn llwyr.
“Mae cydweithwyr yn dweud wrtha i’n gyson bod pethau’n waeth na fuon nhw erioed a’u bod nhw wedi penderfynu ymddeol yn gynnar neu adael y Gwasanaeth Iechyd yn sgil hynny.
“Mae meddygon a chleifion yn haeddu gwell na hyn.
“Dylai buddsoddi mewn staff fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth drio gwella gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac rydyn ni, yn syml, wedi rhedeg allan o opsiynau.”
‘Haeddu gwell’
Mae meddygon SAS wedi digalonni ac wedi blino yn sgil y pwysau gwaith, yn ôl Dr Julie Jones, dirprwy gadeirydd pwyllgor SAS Cymru.
“Ddydd ar ôl dydd, rydyn ni eisiau rhoi gofal o ansawdd i’n cleifion, ond mae bylchau mewn staff yn gwneud hynny’n amhosib,” meddai.
“Rydyn ni i gyd yn haeddu gwell na hyn.
“Rydyn ni eisiau gwasanaethu ein cleifion, nhw ydy ein prif flaenoriaeth, ond mae cyflogau gwael ac amodau gwaeth fyth wedi’n gorfodi ni i gymryd y cam hwn.”
‘Parhau i bwyso am gyllid’
Er eu bod nhw’n “siomedig” fod y BMA yn cynnal pleidlais, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud eu bod nhw’n “deall cryfder teimladau” meddygon.
“Er ein bod yn dymuno mynd i’r afael â’u huchelgeisiau adfer cyflogau, mae’r cynnydd o 5% ar gyfer 2023-4 ar derfynau’r cyllid sydd ar gael i ni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae hefyd yn adlewyrchu’r cytundeb y daethpwyd iddo gyda’r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.
“Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.
“Heb yr arian ychwanegol hwnnw, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig mwy ar hyn o bryd.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda’r BMA, ac rydym ar gael ar gyfer trafodaethau pellach ar unrhyw adeg.”