Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd sinemâu, amgueddfeydd a salonau harddwch yn cael ailagor o ddydd Llun (Gorffennaf 27), wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio ymhellach yng Nghymru.
Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau addas, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn (Gorffennaf 25) ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun (Gorffennaf 27).
Er bod gan y busnesau hyn hawl i ailagor yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, nid oes yn rhaid iddynt wneud hynny.
“Mae ein busnesau manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn ein heconomi, a bydd rhagor ohonyn nhw’n dechrau croesawu cwsmeriaid a gwesteion yn ôl o yfory ymlaen,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Wrth i ragor o lefydd ddechrau ailagor, rhaid inni ddod i arfer ag ambell newid i’n diogelu ein hunain a’r bobl sy’n gweithio yn y busnesau hyn.
“Mae cyfrifoldeb ar bawb i gadw at y rheolau newydd hyn er mwyn diogelu ein hunain a’n hanwyliaid.
“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Ond os byddwn ni i gyd yn cydweithio, gallwn ni ddiogelu Cymru.”
Bydd yr adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau yn cael ei gynnal ar Orffennaf 30.