Dylai siopau tecawê roi rhifau cofrestru ceir ar fagiau fel bod modd olrhain perchnogion sbwriel.
Dyna ddywedodd Andrew RT Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn ystod sesiwn drafod ar-lein ar ‘Adferiad Gwyrdd Cymru’ ddydd Iau.
Yn siarad yn y sesiwn, dywedodd ei fod wedi profi “pla o sbwriel tecawê” ger ei gartref dros y mis diwetha’, a’i fod yn ffeindio sbwriel McDonald’s a KFC yno yn aml.
Un ateb, meddai, yw gosod rhifau cofrestri ceir ar fagiau a deunydd pacio fel bod modd cael gafael ar rywun os ydyn nhw’n taflu sbwriel.
“Dw i’n credu’n gryf y dylai siopau tecawê chwarae rhan llawer mwy trwy roi rhifau cofrestri ar fagiau a’r holl bethau maen nhw’n eu rhoi fel bod modd ei olrhain yn i berchennog y car,” meddai.
“Mae gennym y dechnoleg i wneud hynny. Felly fel gwleidyddion beth am fwrw ati.”
Cyfeiriodd hefyd at y gost 5c sy’n rhaid talu am fagiau plastig yng Nghymru, a dywedodd bod hyn yn enghraifft “prin iawn” o drethi yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon i newid agweddau.
Y panel
Gŵyl amaeth a natur ar-lein yw ‘Adferiad Gwyrdd Cymru’, ac ymhlith yr Aelodau o’r Senedd eraill a gymerodd ran oedd Huw Irranca-Davies a Llŷr Gruffydd.
Wnaeth Llŷr Gruffydd grybwyll y ffaith bod cangen Blaenau Gwent Plaid Cymru eisoes wedi lansio deiseb yn galw am roi rhifau cofrestru ceir ar becynnau.
Yn ymuno â’r Aelodau o’r Senedd ar y panel roedd y Democrat Rhyddfrydol, William Powell, ac Arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter.
“Cam-drin cefn gwlad”
Roedd y gwleidydd gwyrdd yn tybio mai ymateb i lacio’r cyfyngiadau oedd y llygru diweddar, ac awgrymodd bod angen addysgu yn ogystal â chosbi.
“Fyddai pobol ddim yn cam-drin cefn gwlad pe bawn nhw’n ei werthfawrogi,” meddai. “Mae’n rhaid i bobol wybod mwy am gefn gwlad. Rydym angen mwy o addysg natur i oedrannau iau.
“Rhaid i bobol wybod beth yw e’. Nid jest rhyw le chwarae yw e’.”