Mae Paul Davies wedi canmol “lefelau hanesyddol” o gefnogaeth gan San Steffan i Gymru yn yr adferiad yn dilyn ymlediad y coronafeirws.
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, “dim ond fel Cymru gref mewn Deyrnas Unedig gref y mae’r lefel yma o gefnogaeth yn bosib”.
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys isafswm o £1.1bn o arian ychwanegol eleni, sy’n rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod, meddai.
Ac mae’n dweud ymhellach y bydd yn galluogi pobol, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gael y gefnogaeth sydd ei hangen, gan fynd â chyfanswm yr arian i Gymru eleni i o leiaf £4bn ar ben y Gyllideb Wanwyn.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad o £2.9bn cyn hyn ers mis Mawrth yn dilyn y pandemig.
Caiff unrhyw newidiadau yn yr arian sy’n cael ei roi i’r gwledydd datganoledig eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn fel arfer.
‘Ymrwymo i drechu’r coronafeirws’
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i drechu’r coronafeirws, ac fe fydd arian ychwanegol hwn i Gymru – sy’n werth £4bn bellach – yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei hymateb ar y rheng flaen,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.
“Mae’r sicrwydd hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi i warchod swyddi a chynllunio ar gyfer adferiad economaidd Cymru.
“Bydwn yn parhau i gydweithio’n agos â nhw er mwyn sicrhau y gallwn ni symud ymlaen gyda’n gilydd, yn ogystal â darparu cefnogaeth economaidd ychwnaegol i weithwyr a chyflogwyr drwy’r ystod o fesurau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Canghellor.”
Cynllun cadw swyddi
Bydd pobol a busnesau hefyd yn parhau i dderbyn cymorth trwy gynlluniau fel y Cynllun Cadw Swyddi, Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth, sydd eisoes wedi cynnal hyd at 480,000 o swyddi, ac ystod o fenthyciadau busnes.
Mae Cymru hefyd wedi derbyn arian mewn meysydd eraill, megis lletygarwch a’r amgylchedd.