Bydd maniffesto 2021 y Ceidwadwyr Cymreig yn chwalu consensws y Senedd ac yn gwbl wahanol i ddogfennau’r prif bleidiau eraill.

Dyna mae Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol dros Orllewin Clwyd wedi ei addo mewn darn i’r blog Ceidwadol, Gwydir.

Yn y darn mae’n cydnabod bod maniffestos y Ceidwadwyr wedi rhannu rhai agweddau â maniffestos pleidiau’r chwith yn y gorffennol, ond mae’n mynnu nad yw ei blaid yn deisyfu consensws bellach.

“Mae’r dyddiau pan oeddech yn medru cymryd paragraffau o faniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig a’u gosod ar hap mewn dogfennau Plaid, neu Lafur, neu’r Dems Rhydd, wedi hen ddod i ben,” meddai.

“Cynllun fydd ein maniffesto ninnau i danio’r chwyldro datganoli mae Cymru ei angen. Dyma fydd y rhaglen fwyaf radical a heriol yr ydym erioed wedi ei chynnig i bleidleiswyr.

“Ac ers sefydliad y ddeddfwrfa ym Mae Caerdydd, dyma fydd y maniffesto lle fydd cymeriad gwahanol y Ceidwadwyr Cymreig ar ei amlycaf.”

Mae ei ddarn hefyd yn addo na fydd ei blaid yn anelu at “Butskelliaeth â draig arni” – term yw Butskellism am y consensws economaidd rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn yr 1950au.

Agwedd galetach at ddatganoli

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi dangos eu bod am frwydro’r etholiad flwyddyn nesa’ ar lwyfan ychydig yn wahanol i’r arfer.

Er nad yw’r blaid wedi mynd mor bell â’i chyd-bleidiau ar y dde (Plaid Brexit a Phlaid Diddymu’r Cynulliad [sic]) a galw am ddiddymu’r Senedd, mae eu hagwedd at ddatganoli wedi caledu.

Yn eu cynhadledd wanwyn yn Llangollen eleni dywedodd eu harweinydd yn y Senedd, Paul Davies,  bod angen rhoi stop ar “drên grefi” y Bae, a dywedodd y byddai’n cwtogi’r nifer o weinidogion.

Yn ei ddarn mae Darren Millar yn atseinio hyn trwy amau gwerth cyrff sydd yn derbyn nawdd gan y Llywodraeth – gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru, a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Mae hefyd yn dweud y byddai Llywodraeth Geidwadol yn cwtogi’r nifer o ymgynghorwyr arbennig.