Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod am gynnal eu Cynhadledd Flynyddol yn ddigidol eleni.

Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal ar Hydref 2-3, gan gadw at y dyddiadau gwreiddiol a bydd amserlen lawn yn cael ei chyhoeddi “cyn bo’ hir.”

“Er ein bod oll yn siomedig na fedrwn gwrdd wyneb yn wyneb, rydym yn falch ein bod ni yn gallu cwrdd ar-lein, er gwaetha’r sefyllfa gyda Covid-19,” meddai datganiad gan Blaid Cymru.

“Edrychwn ymlaen at raglen lawn o areithiau, trafodaethau, digwyddiadau ymylol, ac wrth gwrs digwyddiadau cymdeithasol. Bydd yr amserlen lawn yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir!

Mae Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru wedi penderfynu symud y cynigion polisi i’r Cyngor Cenedlaethol ym mis Tachwedd ac etholiadau i’r Pwyllgor Gwaith i’r Gynhadledd Flynyddol 2021.