Fe fydd plant a phobol leol yn cael cyfle i gyfrannu at sioe newydd wedi ei seilio ar ddirgelwch ynghylch anifail chwedlonol yn Nhregaron.

Y bwriad yw creu sioe llawn dychymyg am Eliffant Tregaron – creadur sydd, yn ôl y stori, wedi ei gladdu y tu ôl i dafarn enwoca’r dre’ … ond fod neb yn hollol siŵr.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi comisiynu sioe wedi ei seilio ar hanes yr eliffant, gan wahodd pobol leol i gynnig syniadau “rhyfeddol a hynod” at sioe deulu pan ar gyfer eisteddfod y flwyddyn nesa’ yn y dre’.

“Mae stori Eliffant Tregaron yn rhan bwysig o hanes yr ardal, ac mae’n sail wych ar gyfer sioe i apelio i’r teulu i gyd,” meddai un o’r cynhyrchwyr, Elgan Rhys.

Bylchau yn y stori

Ond mae yna fylchau yn y stori a’r bwriad yw defnyddio’r syniadau sy’n cael eu cynnig i lenwi’r bylchau hynny.

Fe fydd dau sesiwn yn cael eu cynnal ar Zoom – ar 3 a 7 Awst – er mwyn casglu’r syniadau.

“R’yn ni’n edrych ymlaen yn arw i glywed syniadau dychmygus am yr eliffant er mwyn ein helpu i fynd ati i ddatblygu’r sioe,” meddai Elgan Rhys.

Dawnsiwr yn “edrych ymlaen”

Mae’r dawnsiwr Osian Meilir, sy’n cydweithio gydag Elgan Rhys, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “edrych ymlaen at weithio gyda phobol leol a rhannu profiadau.”

“Dw i’n lled gyfarwydd gyda hanes Eliffant Tregaron gan fy mod i’n byw yng Ngheredigion,” meddai.

“Dw i wrth fy modd yn perfformio a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda phobol leol a rhannu profiadau.

“Mae hanes yr Eliffant yn berthnasol iawn i Geredigion a dw i’n falch iawn bod yr Eisteddfod wedi comisiynu sioe ar gyfer y plant a phobol leol.”

Yr eliffant yn “fyw yn nychymyg pobol Tregaron”

Dywed aelod o Gyngor Tref Tregaron, Catherine Jane Davies, fod yr eliffant yn “fyw yn nychymyg pobol Tregaron.”

“Dw i’n meddwl y bydd y sioe yn gyfle cyffrous iawn, ac mae’n hyfryd bod yr Eisteddfod yn gwahodd pobol leol i gymryd rhan ynddi,” meddai wrth golwg360.

“Yn sicr, bydd yn rhywbeth i edrych ymlaen amdano.”

Y stori – hyd yn hyn …

Mae’n debyg fod yr eliffant wedi marw tra oedd yn rhan o syrcas deithiol yng Ngheredigion yn 1848.

Bu archeolegwyr o Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant yn cloddio am gorff yr eliffant yn 2011 gan ddilyn y stori ei fod wedi ei gladdu yng nghefn tafarn enwog y Talbot.

“D’yn ni ddim wedi darganfod unrhyw arwydd o’r eliffant felly mae’r dirgelwch yn parhau,” meddai archeolegydd o Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant ar y pryd.

Y gred yw bod yr eliffant wedi bod yn rhan o grŵp teithiol Batty’s Menageries ac iddo fynd yn sâl ar ôl yfed dŵr o ffynnon oedd wedi ei wenwyno gan blwm.