Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi canslo confensiwn y Gweriniaethwyr yn Jacksonville, Florida yn sgil pandemig y coronafeirws.

Roedd Donald Trump eisoes wedi symud digwyddiadau cyhoeddus y confensiwn o North Carolina oherwydd gofidion ynghylch y feirws.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu ymgynghorwyr Donald Trump yn ei annog i ganslo’r confensiwn, gan ddweud nad oedd pwynt bwrw ymlaen gyda’r digwyddiad os byddai’r prif sylw ar y pandemig. Yn dilyn twf mewn achosion yn y de, mae’r Arlywydd bellach wedi cytuno i’r confensiwn gael ei ganslo.

“Mae’n fyd gwahanol, ac fel hyn fydd hi am sbel,” meddai Donald Trump wrth egluro ei benderfyniad.

“Nid dyma’r amser iawn i gynnal confensiwn.”

Mae Maer Jacksonville, Lenny Curry wedi dweud ei fod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod Donald Trump wedi “rhoi iechyd a diogelwch y cyhoedd yn gyntaf.”

“Dw i’n ddiolchgar iddo am ei arweiniad, a dyma oedd y ffordd orau i symud ymlaen.”

Confensiwn rhithiwr

Bydd y Democratiaid yn cynnal confensiwn rhithiwr rhwng Awst 17-20 ym Milwaukee, gan ffrydio areithiau ar-lein, yn ôl swyddogion y blaid.

Mae disgwyl i Joe Biden dderbyn yr enwebiad arlywyddol mewn person, ond dyw hi ddim yn glir a fydd yno gynulleidfa ai peidio.