Mae’r Ceidwadwyr wedi addo rhoi stop ar “gravy train” y Cynulliad os wnawn nhw ddod i bŵer yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal eu cynhadledd yn Llangollen heddiw, ac mae arweinydd grŵp Cynulliad y blaid wedi bod yn areithio’r bore yma.

Roedd Paul Davies yn dweud ei fod eisiau haneru’r nifer o weinidogion Cymreig yn Llywodraeth Cymru, o 14 lawr i saith.

Mae o hefyd am roi stop ar recriwtio gweision sifil a pheidio cynyddu cyllideb y corff sy’n rhedeg y Cynulliad.

“Byddwn ni ddim yn diddymu’r Cynulliad, ond mae’n rhaid i ni wrando mwy ar y sawl sydd eisiau,” meddai Paul Davies.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn torri cost gwleidyddiaeth.”

Plaid ar i fyny

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Llangollen yn dilyn llwyddiant yn yr etholiad cyffredinol, ond mae ganddyn nhw broblemau gyda rhai o’u gwleidyddion.

Cafodd Aelod Cynulliad Sir Fynwy, Nick Ramsay ei wahardd o’r grŵp Cynulliad wedi iddo gael ei arestio ar y cyntaf o Ionawr a’i ryddhau heb gyhuddiad.

Enillodd y blaid chwe sedd oddi wrth Lafur yn yr etholiad cyffredinol fis Rhagfyr, gan sicrhau 14 o Aelodau Seneddol i’r blaid yng Nghymru a’u canlyniad gorau yn y wlad ers 1983.

Ac roedd canlyniad pôl opiniwn Dydd Gŵyl Dewi BBC Cymru yn galonogol i’r Torïaid, gan iddo awgrymu y gallai’r blaid ennill nifer tebyg o seddi i Lafur a Phlaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.