Bydd rhai o feirdd a chantorion Cymru ym mhrifddinas Iwerddon drwy gydol yr wythnos nesaf er mwyn “hyrwyddo Cymru fel gwlad a diwylliant sy’n agored i gydweithio”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu ‘Wythnos Cymru Dulyn’ rhwng Mawrth 9 – 13, sef cyfres o ddigwyddiadau celfyddydol yng Nghromen Ddigidol Tŷ Cymru, Custom House Quay and EPIC: Amgueddfa Ymfudo Iwerddon, i ddathlu Gŵyl Ddewi a Gŵyl Padrig ar y cyd.
Oherwydd Brexit, mae eisiau manteisio mwy nag erioed ar Iwerddon fel gwlad i helpu cysylltu Cymru gydag Ewrop, yn ôl Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
“Mae’r wythnos yn hynod bwysig i ni o ran cael datblygu’r berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon ac er mwyn hyrwyddo Cymru fel gwlad a diwylliant sy’n agored i gydweithio,” meddai Eluned Haf.
“Efo’n chwaer-wlad Geltaidd agosaf, yn naturiol hwn yw’r drws ffrynt newydd i mewn i’r Undeb Ewropeaidd i ni. O ran hynny, does yna erioed gyfnod pwysicaf i ni fod yn cydweithio.”
Ymhlith y digwyddiadau bydd sesiwn farddol yng nghwmni beirdd benywaidd o Gymru ac Iwerddon; trafodaeth ar wasgariad ac iaith yng nghwmni Philip King (Gŵyl Lleisiau Eraill), Huw Stephens, Georgia Ruth; Lauren Ni Chasaide; Laosie Kelly a Bethan Kilfoil; a sgwrs ar gelfyddydau ac iechyd yng nghwmni Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Fearghus O Conchuir.
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sydd yng ngofal Gŵyl y Gorwel nos Iau – noson o gelf, iaith, cerddoriaeth a sgyrsiau. Rhan ohono fydd premiere Ewroepaidd o ffilm animeiddiedig Rhys a Meinir gan Cian Ciaran a Bait Studio sy’n cynnwys llais yr actor Rhys Ifans.
“Pardduo” gan Brexit
Mae yna “her” i Gymru ar hyn o bryd oherwydd bod y wlad wedi pleidleisio o blaid Brexit yn y refferendwm, yn ôl Eluned Haf.
“Mae yna her i newid sut y mae pobol yn gweld ein diwylliant ni ar hyn o bryd,” meddai. “Byddai’n hawdd iawn i ni gael ein pardduo gan bleidlais sydd wedyn yn mynd i fod yn cynrychioli sut mae pobol yn ein gweld ni’n ddiwylliannol.”
Mae yna reswm strategol hefyd i gryfhau’r bartneriaeth â’r cefndryd Celtaidd, er mwyn gallu cyrraedd at y marchnadoedd mwy. Bydd hi’n haws i wlad fawr fel China ymdrin â Chymru ac Iwerddon ar y cyd, neu yn yr un modd, wrth raglennu projectau celfyddydol, yn ôl Eluned Haf.
“Iddyn nhw mae’n gwneud synnwyr llwyr eu bod nhw’n dod i’n gweld ni a gweld Iwerddon yr un pryd,” meddai. “Mae’n ffordd i ni ddatblygu ffordd o deithio gwaith rhyngwladol sy’n dod yma, ond hefyd i ni fedru ffeindio ffyrdd newydd o gyd-gyflwyno gwaith mewn marchnadoedd sy’n rhy fawr i ni fel gwledydd bach unigol. Felly mae’n strategol iawn i ni fod yn gwneud hyn ar hyn o bryd.”
- Wythnos Cymru Dulyn, Dulyn, Mawrth – Gwener, Mawrth 9 – 13