Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu casgliad dwyieithog o eirfa ac ymadroddion sy’n cael eu defnyddio’n eang ac yn aml yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Nod y casgliad yw hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, ac i gysoni’r defnydd o dermau arbenigol.

Mae modd chwilio dogfennau Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg er mwyn dod o hyd i eirfa neu ymadroddion cyfatebol yn un iaith neu’r llall.

Geirfa

Ers dechrau ymlediad y coronafeirws, fe ddaeth rhai geiriau ac ymadroddion yn fwy cyfarwydd i ni, gydag eraill yn cael cyd-destun newydd.

Yn eu plith mae ‘swigen’, ‘olrhain cysylltiadau’, ‘llacio’ cyfyngiadau, ‘gwastatu’r gromlin’ a ‘chadw pellter cymdeithasol’.

Mae’r rhain a llawer mwy wedi’u cynnwys mewn dogfen sy’n gallu cael ei lawrlwytho oddi ar wefan y Cyngor.

‘Cywirdeb a chysondeb’

“Mae’r ddogfen wedi’i llunio er mwyn sicrhau bod y termau newydd hyn yn cael eu defnyddio’n gywir ac yn gyson yn y Gymraeg, a’u bod yn dod yn rhan o eirfa naturiol iaith bob dydd siaradwyr Cymraeg,” meddai Carys Morgan, Swyddog Polisi Iaith y Cyngor.

“Wrth rannu’r ddogfen yn eang, rydym yn gobeithio bydd unigolion a busnesau ar draws Ceredigion yn gwneud defnydd o’r casgliad geirfa, fel bod negeseuon allweddol at sylw’r cyhoedd yn cael eu dangos yn ddwyieithog o fewn y Sir.”

‘Cyfathrebu negeseuon’

“Yn ystod cyfnod anodd y pandemig dwi’n falch i adrodd bod y Cyngor wedi llwyddo i gyfathrebu ein negeseuon allweddol yn ddwyieithog, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg,” meddai’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd y Cyngor.

“Mae hyn yn ddisgwyliedig gan drigolion sir fel Ceredigion. Yn ogystal, mae cael cyfle i glywed a gweld y Gymraeg yn bwysig i’r nifer cynhyddol o ddysgwyr sydd yn ein mysg.

“Rydym yn falch iawn o’r cydweithio rhwng y Tîm Cyfathrebu a’r Tîm Cyfieithu Corfforaethol, sydd wedi gweithio’n galed i ddatblygu a chwilio am ystod o eirfa newydd sydd wedi dod yn fwy cyfarwydd i ni gyd fel mae’r pandemig yn mynd rhagddo.

“Mae defnyddio’r termau newydd hyn yn profi bod y Gymraeg yn iaith gyfoes, sy’n fyw ac ar waith yng Ngheredigion heddiw.”