Ryan Giggs (llun o wefan Man Utd)
Y Cymro Ryan Giggs fydd capten tîm pêl-droed dadleuol Prydain yn y Gemau Olympaidd.

Dywed y chwaraewr rhyngwladol 38 oed ei fod yn falch o gynrychioli Prydain yn y Gemau, a’i fod yn credu y bydd ganddo fedal arall yn fuan i ychwanegu at ei gasgliad.

“Mae’n amlwg yn anrhydedd aruthrol cael bod yn rhan o’r Gemau Olympaidd,” meddai.

“Mae’n brofiad unigryw, a dw i’n gobeithio y gallwn ni gael aur. Dyna mae’r chwaraewyr yn ei obeithio amdano.

“Mae am fod yn galed, ond mae gennym siawns dda.”

Pwnc llosg

Mae’r syniad o dîm Prydeinig ynddo’i hun wedi bod yn bwnc llosg gyda chymdeithasau pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwrthwynebu ‘Tîm GB’.

Does neb o’r Alban na Gogledd Iwerddon wedi cael eu dewis, ond mae Giggs yn un o bump o chwaraewyr yng ngharfan Prydain o 18 dyn.

“Fel chwaraewr ac fel Cymro, ro’n ei eisiau cymryd rhan,” meddai Giggs.

“Fel fy nghyd-chwaraewyr o Gymru, rydyn ni’n Gymry a oedd eisiau’r cyfle i chwarae gartref dros Brydain Fawr mewn Gemau Olympaidd, felly dw i’n meddwl ei fod yn gyfle na allen ni ei wrthod.

“Os oes ar bobl eraill eisiau anghytuno, wel eu hawl nhw yw hynny, ond fel chwaraewr dw i’n llawn cyffro ac yn methu ag aros.”