Paul James
Mae disgwyl i brop Cymru, Paul James, ddychwelyd yn gynt na’r disgwyl i Stadiwm y Liberty.

Fe adawodd y Gweilch ar ddiwedd y tymor diwethaf er mwyn parhau ei yrfa gyda chlwb Caerfaddon.

Fe dreuliodd naw tymor gyda’r Gweilch ac fe chwaraeodd 180 o weithiau – record i’r rhanbarth.

Bydd James yn rhan o dim Caerfaddon a fydd yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn y Gweilch ar Awst 18

Hyd yn hyn, mae James wedi ennill 37 o gapiau dros Gymru.