Cyn-seren y Swans Alan Curtis fydd yn gyfrifol am hyfforddi’r tîm cyntaf dan deyrnasiad y rheolwr newydd Michael Laudrup.

Fe wnaeth Curtis ymuno â’r Elyrch fel prentis yn 1972 a sgoriodd 72 o goliau mewn 248 o gemau iddyn nhw, felly teg dweud ei fod yn dipyn o lejend.

Mae Curtis, sy’n 58 oed, yn edrych ymlaen at yr her newydd ar ôl bod yn gyfrifol am y chwaraewyr ifanc pan oedd Roberto Martinez yn reolwr Abertawe.

‘‘Rwy’n edrych ymlaen i weithio’n agos gyda Michael, ac rwy’n siwr y bydd yn profi ei hun yn reolwr da i Abertawe gan iddo fod yn chwaraewr arbennig o ddisglair,’’ meddai Curtis.