Fe gafodd Derwyddon Cefn ganlyniad rhagorol yng nghynghrair Europa gan lwyddo i gadw’r ymwelyr i gêm ddi-sgôr.

Mae MyPa-47 yn dîm llawn amser draw yn y Ffindir.

Ond fe wnaethan Derwyddon Cefn brofi eu gwerth yn y gystadleuaeth, ac fe allen nhw hyd yn oed fod wedi ennill y gêm.

Y cyfle gorau a gafodd y Derwyddon ar y noson oedd pan darodd ergyd George Hughes y postyn, ac yn syth ar ôl hynny cafodd cynnig Steve Jones at y gôl ei glirio oddi ar y linell.

Yn union fel yn rownd derfynol cystadleuaeth Cwpan Cymru, fe wnaeth Chris Mullock sawl arbediad gwych i atal yr ymwelwyr rhag sgorio.

Fel aeth y gêm yn ei blaen, cynyddodd hyder tîm Huw Griffiths.

Cafodd Kieran Quinn a Mike Burke gyfleoedd yn hwyr i sgorio, ond fe fethodd y Derwyddon ddod o hyd i gefn y rhwyd.

Er gwaethaf hynny, fe fyddan nhw’n teithio i’r Ffindir wythnos nesaf yn llawn hyder ar ôl y canlyniad campus gartref neithiwr.