Ydy Robin yn reliant?
Mae’r ffrae tros ddyfodol Robin Van Persie yn gwaethygu, gydag Arsenal yn bygwth achwyn ar Man City am gysylltu gyda’u chwaraewr gorau ar y slei, yn groes i’r rheolau, er mwyn ceisio ei ddenu i Stadiwm yr Etihad.

Roedd y rheolwr Arsene Wenger eisioes yn wallgof bod Robin Van Persie wedi cyhoeddi ar ei gyfrif twitter ei fod yn gadael y Gunners.

Gyda’r rhan fwyaf o chwaraewyr Arsenal yn dychwelyd at y clwb i hyfforddi ar gyfer y tymor newydd ddydd Llun, maen nhw’n desbret i ddal eu gafael ar Van Persie.

Mae ganddo gytundeb i chwarae i’r clwb am 12 mis arall, ond mi fydd Arsenal yn ystyried ei werthu am £30miliwn.

Mi allai Chwaraewr y Flwyddyn yn yr Uwchgynghrair, a sgoriodd 37 gôl y tymor diwetha’, hawlio cyflog wythnosol o dros £200,000 efo Man City.

Oiligarch anhapus

Yr wythnos hon mae Alisher Usmanov, dyn sy’ biau 30% o gyfranddaliadau Arsenal, wedi cyhuddo’r clwb o fethu dal eu gafael ar chwaraewyr talentog fel Cesc Fabregas a Samir Nasri.

Ni fydd y clwb yn llwyddo ar y cae oni bai eu bod yn talu i gadw chwaraewyr fel Van Persie, meddai’r biliwnydd o Uzbekistan.