Stadiwm newydd Nantporth
Ar ôl gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf yn erbyn Zimbru Chisinau neithiwr, mae Bangor wedi rhoi ei hunain mewn sefyllfa addawol i gamu ymlaen yng nghynghrair Europa.

Mi fyddan nhw’n teithio i Moldova I herio Zimbru Chisinau yn yr ail gymal nos Iau nesaf.

Dechreuodd Bangor yn gadarn, ond wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen ymatebodd yr ymwelwyr yn gryf.

Fe wnaeth y gôl geidwad Lee Idzi arbed cynigion teilwng gan streicwyr Zimbru,  Radu Catan a Oleg Molla.

Yn ogystal fe ddaeth  Damien Allen yn agos i roi’r tîm cartref ar y blaen ar ôl cic rydd.

Ond yn yr ail hanner, crëwyd nifer o gyfleoedd gan eilyddion Bangor sef Chris Jones, Alan Bull a Dave Morley.