Wedi teithio’r holl ffordd i’r Ffindir, fe wnaeth Llanelli chwarae’n gadarn wrth iddyn nhw herio KuPS Kupio.

Mewn llai na thair munud fe wnaeth Chris Venables ildio cic o’r smotyn, ac ar ôl 18 munud roedd y Cochion yn colli 2-0.

Wrth i’r gêm fynd yn ei flaen, fe gododd hyder Bois y Sosban ac yn amser ychwanegol yn yr hanner gyntaf, fe wnaeth Jason Bowen (Seren y gêm) sgorio’r gôl holl bwysig oddi cartref.

Yn yr ail hanner roedd Llanelli yn well na’r gwrthwynebwyr, a bron iddyn nhw ddod yn gyfartal gydag ergyd Chris Venables.

Wedi dweud hynny, mae’r canlyniad yma yn cadw eu gobeithion yn fyw a disgwylir iddi fod yn orlawn ym Mharc Stebonheath ddydd Iau nesaf ar gyfer yr ail gymal.