Ar ôl misoedd o brofion, mae’r Bwrdd Pêl-droed Rhyngwladol wedi penderfynu caniatáu defnyddio’r dechnoleg llinell gôl  ‘Hawk-Eye’ a ‘GoalRef’ mewn gemau.

Yn ogystal fe fydd y dechnoleg yn cael ei chyflwyno yn yr Uwch Gynghrair ac mewn nifer o wahanol gystadlaethau.

‘‘Rydym yn gweld pob tymor, mewn pob cystadleuaeth fawr, mae angen y dechnoleg arnom oherwydd mewn rhai eiliadau hanfodol o fewn y gemau hynny, gall y dechnoleg fod o gymorth mawr,’’ meddai Robert Di Matteo, rheolwr Chelsea.

Bydd ychydig o oedi cyn defnyddio’r dechnoleg oherwydd bod angen trwyddedu, ei osod a phrofi ymhob lleoliad i sicrhau ei bod yn gweithio’n iawn.

Mae’r Bwrdd yn pwysleisio y bydd y dechnoleg yn cael ei ddefnyddio fel cymorth i’r dyfarnwr yn hytrach na phenderfynu os yw’r bêl wedi croesi’r llinell.

Mae Llywydd FIFA Sepp Blatter yn gefnogwr o’r dechnoleg llinell gôl, ers i’r dyfarnwr methu caniatáu gôl Lloegr yn erbyn Yr Almaen yng Nghwpan y Byd yn 2010.  Ac yn ddiweddar, cynyddodd y  galw am dechnoleg llinell gôl oherwydd i’r dyfarnwr fethu caniatáu gôl yr Wcráin yn erbyn Lloegr yng nghystadleuaeth Ewro 2012.