Serena Williams
Fe fydd Victoria Azarenta yn wynebu’r hynod o brofiadol Serena Williams yn rownd gynderfynol pencampwriaeth Wimbledon prynhawn ma.

Mae Azarenta, 22, o Belarws wedi ennill dim ond unwaith mewn 8 gêm yn erbyn Williams.

Ond nid yw Azaranta wedi colli set ers cychwyn y gystadleuaeth ar ei ffordd i’r rownd gynderfynol.

‘‘Dydw i ddim yn hoffi edrych yn ôl ar hanes, mae stori newydd o hyd yn cychwyn unwaith i chi gamu ar y cwrt,’’ meddai Azarenta wrth y BBC.

Mae Serena Williams wedi ennill y gamp lawn 13 o weithiau, a churodd Petra Kvitov, enillydd Wimbledon y llynedd, yn y rownd ddiwethaf i gamu ymlaen at y rownd gynderfynol.

‘‘Nid yw’n mynd i fod yn gêm rhwydd o gwbl.  Rwy’n credu bod (Azarenta) wedi chwarae’n anhygoel y flwyddyn yma.  Mae hi’n chwarae’n dda yn gyson ac yn symud yn chwim o gwmpas y cwrt wrth chwarae.

“Rhaid i mi fod yn amyneddgar wrth chwarae yn ei herbyn,’’ dywedodd Williams wrth ohebydd Chwaraeon y BBC.