Andy Murray
Mi roedd hi’n gêm galed, llawn tensiwn, ond fe lwyddodd Andy Murray i guro’r Sbaenwr David Ferrer ddoe i gyrraedd rownd gynderfynol pencampwriaeth tenis Wimbledon.
Ei wrthwynebydd yn y rownd gynderfynol fydd y Ffrancwr poblogaidd Jo-Wilfried Tsonga.
Fe gollodd Murray y set gyntaf i Ferrer ac mi roedd o fewn trwch blewyn i golli’r ail set. Ond yna, fe frwydrodd yn ôl yn benderfynol i ennill y set honno o 7-6, cyn mynd ymlaen i ennill y ddwy set arall, 6-4 a 7-6.
“Mi roedd hi’n gêm galed iawn, yn gêm hir gyda llawer o eiliadau anodd,” meddai Murray wrth ohebydd chwaraeon y BBC. “Mae’n chwaraewr gwych sydd ddim bob amser yn cael y parch mae’n ei haeddu.”
Roedd yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i chwarae am gyfnod yn y bedwaredd set oherwydd y glaw, ond yna ar ôl toriad o ugain munud, fe gliriodd y glaw a daeth Murray yn ôl i’r cwrt canol i hawlio ei wobr.
Mae llawer yn credu bod gan Murray’r siawns wych o gyrraedd y rownd derfynol yn ei frwydr i fod y Prydeiniwr cyntaf i ennill pencampwriaeth Wimbledon ers Fred Perry yn ôl yn 1936.
Bydd Murray yn wynebu Tsonga yfory.