Gylfi Sigurdsson
Mae Gylfi Sigurdsson, a fu ar fenthyg yn Abertawe tymor diwethaf, wedi ymuno â Tottenham Hotspur.

Roedd honiadau fod y chwaraewr canol cae am ddychwelyd i Stadiwm Liberty yn barhaol dros yr haf ar ôl iddo sgorio 7 gôl mewn 19 o gemau i’r Elyrch.

Yn dilyn ymadawiad Brendan Rodgers i Lerpwl, fodd bynnag, roedd disgwyl i Gylfi Sigurdsson, 22, ailymuno a’i gyn-hyfforddwr yn Anfield.

Ond mae wedi penderfynu gadael ei glwb Hoffenheim yn yr Almaen er mwyn ymuno â Spurs mewn dêl gwerth £8 miliwn honedig.

Cafodd Andres Villas-Boas ei gyhoeddi fel rheolwr newydd Spurs yr wythnos yma.