Mae llywydd Fifa, Sepp Blatter, wedi dweud ei fod yn annhebygol y bydd tîm pêl-droed y Deyrnas Unedig yn cystadlu yn y dyfodol.

Enillodd tîm merched Prydain 1-0 yn gêm gyntaf y Gemau Olympaidd, yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd heddiw.

Roedd Sepp Blatter yn bresennol yn y gêm, ond fel arall roedd nifer y gwylwyr ychydig yn siomedig. Roedd disgwyl 40,000 yn y dorf, ond dim ond 24,549 aeth i wylio, er gwaethaf y tywydd godidog.

Dywedodd Sepp Blatter nad oedd “unrhyw beth o’i le” ar ddymuniad Cymdeithas Olympaidd Prydain i weld tîm o’r fath yn cystadlu yn Gemau Olympaidd 2016.

Ond fe fyddai yn rhaid i bob un o’r pedwar tîm cenedlaethol unigol gymhwyso ar gyfer y bencampwriaeth cyn bod y tîm yn gallu cystadlu, meddai.

“Does dim byd o’i le ar ddymuniad Cymdeithas Olympaidd Prydain, maen nhw eisiau tîm pêl-droed fel pawb arall,” meddai Blatter.

“Ond fe fydd yn dasg anodd iawn. Fe fyddai rhaid i’r pedwar cymdeithas bêl-droed Prydeinig chwarae yn y rownd cymhwyso ym mhencampwriaeth dan-21 Ewrop.

“Mae popeth yn bosib ond maen nhw wedi cael digon o drafferth wrth geisio cynnal tîm cyfunol yma yn Llundain.

“Felly dydw i ddim yn meddwl ei fod yn debygol o gael ei wireddu.”