Georgia Davies (llun o'i chyfrif Twitter)
Yn y gyfres o broffiliau athletwyr Cymreig y Gemau Olympaidd, y nofwyr sy’n cael ein sylw nesaf.

Georgia Davies

Camp: Nofio (prif ddull – dull cefn)

Oedran: 21 (11 Hydref 1990)

Taldra : 175cm

Pwysau: 59kg

Man geni: Llundain (magu yn Abertawe)

Twitter: @Ge0rgiaDavies90

Gyrfa:

– Medal efydd yn y dull cefn 100m – Pencampwriaethau Iau Ewropeaidd  2006

– Medal arian yn y dull cefn, 50m a 100m – Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2008

– Medal efydd yn y dull cefn 50m; pedwerydd yn y ras cyfnewid – Gemau Ieuenctid y Gymanwlad , Dehli  2010

Ffaith ddibwys:

–          Mae Georgia yn astudio cyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n ymddiddori yn y  cyfyngau

Ras gyntaf: Bydd Georgia’n nofio gyntaf am 10:00 fore Sul 29 Gorffennaf.

Gobeithion:  Aelod arall o’r tîm cartref, Gemma Spofforth, yw’r ffefryn yn y 100m dull cefn – hi yw pencampwraig y byd, ac mae hefyd yn dal record y byd. Er mai dim ond 100/1 yw’r pris mae SkyBet yn rhoi ar Georgina i ennill, bydd hi’n gobeithio cyrraedd y rownd derfynol.


Ieuan Lloyd (Llun o wefan Team GB)
Ieuan Lloyd

Camp: Nofio (200m dull rhydd; ras gyfnewid 200m dull rhydd)

Oedran: 19 (9 Gorffennaf 1993)

Man geni: Penarth

Taldra: 190cm

Pwysau: 83kg

Gyrfa:

– Medal aur yn y 200m – Gŵyl Olympaidd Ieuenctid Ewrop 2011, Trabzon (Twrci)

– Medal aur yn y 200m Cymysg Unigol, a  medal aur yn y tîm yn y 4x200m dull rhydd – Pencampwriaethau Iau Ewrop, Tallinn, Estonia,

– Medal aur yn y 200m dull rhydd, y 200m Cymysg Unigol a’r 4x200m cyfnewid, medal arian yn y 100m dull rhydd a medal efydd yn y 400m dull rhydd – Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, Ynys Manaw

Ffaith ddibwys:

–          Hoffai fod yn ddeintydd ar ôl gorffen ei yrfa nofio.

Ras gyntaf: Bydd yn rasio gyntaf yn rowndiau rhagbrofol y 200m dull rhydd am 10:20 fore Sul 29 Gorffennaf

Gobeithion: Mae Ieuan yn ifanc a hon fydd ei Gemau Olympaidd cyntaf. Mae William Hill yn rhoi pris 100/1 iddo ennill y fedal aur, ond byddai ras dda yn y rownd gynderfynol yn gamp ac yn brofiad da iddo.  Mae ganddo obaith am fedal efydd yn y 4x200m, gyda phris  33/1 ar Brydain a Gogledd Iwerddon i ennill y ras


David Davies (llun o wefan Team GB)
David Davies

Camp: Nofio (1500m dull rhydd, ras gyfnewid 200m dull rhydd)

Oedran: 27 (03 Mawrth 1985)

Taldra: 189cm

Pwysau: 86kg

Man Geni: Y Bari

Gyrfa:

– Medal arian yn y 1500m dull rhydd ac efydd yn y ras gyfnewid 4X200m ym Mhencampwriaethau Cwrs Byr Ewrop yn 2002.

– Enillodd y fedal efydd  yn y ras 1500m dull rhyddd yng Ngemau Olympaidd 2004.

– Enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd diwethaf, a hynny yn y ras ddŵr agored dros 10k. Roedd ond y dim i gipio’r aur o ddwylo Maarten van der Weijden o’r Iseldiroedd

–  Gorffennodd yn bedwerydd yn y 800m dull rhydd ym Mhencampwriaethau’r Byd 2009, yn 6ed yn y 1500m dull rhydd ac yn 8fed yn y 400m dull rhydd.

Ffeithiau diddorol eraill:

– Ar ôl ymddeol o nofio proffesiynol mae’n bwriadu bod yn ddiogyn, a gadael i’w wraig ennill ei thamaid ar ei ran!

Ras gyntaf: Bydd ei ras unigol gyntaf am 10:24, fore Gwener 3 Awst.

Gobeithion: Mae SkyBet wedi rhoi pris 50/1 arno i ennill y ras 1500m, felly isel yw’r gobeithion. Mae ganddo obaith am fedal efydd yn y 4x200m, gyda phris  33/1 i ennill y ras. Mae Davies yn ddigon hapus ei fyd gyda’r ddwy fedal Olympaidd sydd ganddo’n barod ond mae am i’r atgofion fod yn rai da eleni gan mai rhain fydd ei Gemau Olympaidd olaf yn ôl pob tebyg.


Jemma Lowe (o wefan ei hasiantaeth definitive-sports.com)
Jemma Lowe

Camp: Nofio (200m dull pili-pala; 4x100m dulliau cymysg)

Oedran:  22 (31 Mawrth 1990)

Taldra: 169cm

Pwysau: 57kg

Man Geni: Hartlepool (ei thad yn Gymro)

Uchafbwyntiau gyrfa:

– Daeth yn chweched yn ffeinal y 100m yng Ngemau Olympaidd Beijing bedair blynedd yn ôl.

– Enillodd y fedal efydd yn y 100m dull pili-pala yng Ngemau’r Gymanwlad yn Dehli yn 2010.

– Cipiodd y fedal arian ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Dubai yn 2010.

– Mae’n dal y record Brydeinig ar gyfer y 100m a’r 200m dull pili-pala.

Ffaith ddibwys:

–          Mae ei ffrindiau yn ei galw’n ‘Jemmsy’ neu ‘Jembob’

Ras gyntaf: Bydd yn rasio’n unigol gyntaf am 10:20 fore Mawrth 31 Gorffennaf.

Gobeithion: Natsumi Hoshi o Siapan yw’r ffefryn i ennill y ras 200m dull pili-pala, ond mae gobaith i Jemma gipio medal gyda phris o 11/2 yn ôl Paddy Power.   Mae Paddy Power wedi rhoi pris o 33/1 ar Brydain a Gogledd Iwerddon i ennill y ras gyfnewid dulliau cymysg hefyd, sy’n awgrymu bod cyfle am efydd o leiaf.


Marco Loughran (llun o'i gyfrif twitter)
Marco Loughran

Camp: Nofio (200m dull cefn)

Oedran:  23 (24 Mawrth 1989)

Taldra: 188cm

Pwysau: 72kg

Man Geni: Guildford

Twitter: @MarcoL89

Uchafbwyntiau gyrfa:

– Enillodd arian yn y 100m dull cefn, ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop yn 2005.

– Enillodd yr aur yn y 100m (dull cefn) ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop 2007, yn ogystal â dwy fedal arian (50m a 200m dull cefn)

– Gorffennodd yn bedwerydd yn y 100m dull cefn yng Ngemau’r Gymanwlad ddwy flynedd yn ôl,  gan gyrraedd ffeinal y  50m a’r 200m dull cefn hefyd.

Ffaith ddibwys:

– Mae ei ffrindiau’n ei alw’n Nemo

Ras Gyntaf: Bydd yn y pwll gyntaf am 10:20 fore Mercher 1 Awst.

Gobeithion: 94/1 yn ôl Betfair, felly byddai cyrraedd y rownd gynderfynol yn gamp iddo.  

Dai Davies yn creu sblash am lansiad Golwg360 yn 2009:

Casglwyd y wybodaeth gan – Marta Klonowska, Asia Rybelska a Kinga Uszko