Gareth Bale
Mae llywydd Fifa, Sepp Blatter, wedi dweud y gallai Gareth Bale gael ei wahardd rhag chwarae dros Tottenham Hotspur yn ystod y Gemau Olympaidd.

Dywedodd Bale na fyddai ar gael i chwarae yn nhîm pêl-droed dynion y Deyrnas Unedig, ond fe sgoriodd y Cymro mewn gêm cyn dechrau’r tymor yn erbyn LA Galaxy y bore ma.

Dywedodd Blatter y byddai modd gwahardd Bale nes 12 Awst os oedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn gwneud cwyn swyddogol, ond brynhawn yma mae rheolwr tim Prydain, Stuart Pearce, wedi dweud nad yw’n bwriadu gwneud cwyn yn erbyn y Cymro.

Mae’n debyg fod Pearce am ganolbwyntio ar gem dynion Prydain nos yfory yn erbyn Senegal yn hytrach na chael ei dynnu mewn i ffrae.

Beirniadu Bale

Mae penderfyniad Gareth Bale i chwarae dros Spurs ac nid Prydain wedi synnu cyn-chwaraewr Cymru Robbie Savage, a ddywedodd fod Bale wedi  “difetha cyfle unwaith-mewn-bywyd.”

Nid yw Llywydd Fifa yn fodlon ychwaith.

“Os nad yw clwb yn fodlon rhyddhau chwaraewr mae modd i’r gymdeithas ddod at Fifa ac fe wnawn ni wahardd y chwaraewr yn ystod y Gemau Olympaidd,” meddai Sepp Blatter.

“Mae’n bosib gwahardd chwaraewyr sydd ddim yn cael eu rhyddhau ar gyfer defnydd y tîm cenedlaethol.

“Mae safbwynt Fifa ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 a 2016 yn hollol glir.”

Yn dilyn y gêm cyhoeddodd Gareth Bale ei fod wedi anafu ei gefn ond yn dechrau dod ato’i hun.