Gareth Bale
Sgoriodd Gareth Bale mewn gêm gyfeillgar i Spurs ddoe er iddo ddweud nad oedd yn holliach i chwarae yn y Gemau Olympaidd.
Dywedodd wrth reolwr Tîm GB, Stuart Pearce, nad oedd ar gael i chwarae yn y Gemau oherwydd anaf i’w ben-glin.
Roedd Gareth Bale wedi cefnogi’r penderfyniad i sefydlu tîm pêl-droed Prydeinig er gwaethaf gwrthwynebiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Ond mae’n ymddangos ei fod wedi gwella o’i anaf ac yn holliach i chwarae dros ei glwb unwaith eto.
Chwaraeodd y Cymro dros 70 munud o’r gêm gyfeillgar, ac fe sgoriodd gyda pheniad cryf i gefn y rhwyd ar ôl chwarter awr yn unig.
Roedd Spurs yn herio LA Galaxy, y tîm mae David Beckham yn ei gynrychioli, mewn un o dair gêm y mae’r tîm o Lundain yn ei chwarae tra ar daith yn America.
Bydd Tîm GB yn dechrau ar eu hymgyrch yn y Gemau yn erbyn Senegal yn Old Trafford, Manceinion yfory.