Mae’r dyfalu’n parhau ynglŷn â phwy fydd yn cael tanio’r pair Olympaidd yn y seremoni agoriadol ddydd Gwener.

Y ffefryn i wneud hynny yw Syr Steve Redgrave, y rhwyfwr sydd wedi ennill 5 medal aur Olympaidd dros gyfnod o bron i ugain mlynedd.

Cadarnhaodd David Beckham ddoe y byddai’n cymryd rhan yn y seremoni ac y byddai’n un o’r rhai olaf i gludo’r ffagl.

Bydd sawl ffigwr athletaidd enwog yn cario’r ffagl o amgylch y trac yn y Stadiwm Olympaidd ddydd Gwener ac yna’n ei drosglwyddo i’r person sydd â’r cyfrifoldeb o danio’r pair.

Does neb i weld yn ymwybodol o bwy yn union fydd yn cael gwneud hynny, ond mae sawl athletwr wedi bod yn dyfalu.

“Fe fyddwn i wrth fy modd petai Daley Thompson yn cael tanio’r crochan am mai’r cystadlaethau’r trac yw’r maes mwyaf poblogaidd yn y Gemau,” ebe Dai Greene, pencampwr 400m y byd.

“Chris Hoy – mae o’n ysbrydoliaeth, tair medal aur yn y Gemau diwethaf. Fe yw’r prif ddyn. Byddai’n braf ei weld e’n cael gwneud” meddai’r codwr pwysau Gareth Evans.

“Dw i’n meddwl mai aelod o’r cyhoedd gaiff y cyfle, rhywun sy’n symbol o’r Gemau,” meddai Syr Matthew Pinsent, y rhwyfwr ac enillydd pedair medal aur Olympaidd.