Bu’n rhaid i hyfforddwr tîm pêl-droed y Deyrnas Unedig gyfaddef nad oedd yna ryw lawer o ddiddordeb yn llwyddiant ei dîm yn y Gemau Olympaidd eleni.
Dim ond saith newyddiadurwr oedd yn bresennol wrth i Stuart Pearce a’r capten Ryan Giggs gynnal cynhadledd i’r wasg yn Old Trafford.
Bydd y tîm, sydd heb gael sêl bendith Cymdeithasau Pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn wynebu Senegal yn y stadiwm am 8pm ddydd Iau.
“Fe allen ni fod wedi cynnal y gynhadledd yma yn fy ystafell wely,” meddai Stuart Pearce wrth weld nifer y seddi gwag yn yr ystafell.
Ond dywedodd bod pobol y Deyrnas Unedig heb lawn werthfawrogi pa mor bwysig yw’r gystadleuaeth i’r gwledydd fydd yn cymryd rhan.
“Roeddwn i’n ddigon lwcus i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd dan-20 gyda Lloegr,” meddai.
“Roedd y safon yn wych, ac roedd sylw mawr i’r gystadleuaeth dramor. Ond ychydig iawn o bobol yn Lloegr oedd yn gwybod bod y twrnamaint ymlaen.
“Dydyn ni ddim yn llawn werthfawrogi cystadlaethau o’r fath, ac mae’r un peth yn wir am y Gemau Olympaidd.
“Unwaith y mae’r gystadleuaeth yn dechrau, fe fydd pobol yn gweld y timoedd a safon y chwarae, ac fe fydd y diddordeb yn cynyddu.”
Cyfaddefodd bod denu unrhyw ddiddordeb ychwanegol yn ddibynnol i raddau helaeth ar ddechrau llwyddiannus i ‘Team GB’ yn erbyn Senegal.