Mae ffisiotherapydd ifanc wedi penderfynu gohirio ei mis mêl fel bod modd iddi gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd 2012.

Mae Siân Vaughan-Evans yn un o dri o weithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sydd wedi gwirfoddoli i helpu yn ystod y gemau.

Dywedodd y ffisiotherapydd 31 oed ei bod hi wedi treulio oriau diddiwedd ac wedi gwario dros fil o bunnoedd ar deithio wrth baratoi ar gyfer gemau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bu’n rhaid iddi hefyd ohirio ei mis mel ar ôl priodi ei gwr, Gavin, dri mis yn ôl.

“Rydw i wedi gorfod defnyddio fy holl wyliau eleni er mwyn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd,” meddai.

“Ond rydw i’n ferch i ffermwr felly rydw i wedi arfer gweithio’n galed!”

Dechreuodd Siân Vaughan-Evans ei shifft gyntaf ddoe. Fe fydd yn gweithio gyda thimoedd pêl-droed sy’n chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Dywedodd y ferch sy’n dod yn wreiddiol o Ddinbych-y-pysgod ond sydd bellach yn byw ym Mhen-y-lan, ei bod hi wedi gorfod ennill cymwysterau ychwanegol er mwyn cael gwirfoddoli ar gyfer y gemau.

“Cyn gynted ag enillodd Llundain y Gemau Olympaidd roeddwn i’n benderfynol o fod yn rhan o’r peth,” meddai.

“Roedd y cyfnod o ddewis pwy fyddai yn cael cymryd rhan yn un hir a bu’n rhaid i mi fynychu sawl cyfweliad.

“Fe gefais wybod fy mod i wedi fy nerbyn ym mis Rhagfyr. Roeddwn i wrth fy modd, am mai dim ond unwaith mewn oes y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Brydain.”

Ychwanegodd bod ei gwr Gavin, sy’n 33 oed, yn gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol ac yn deall yn iawn pam ei bod hi wedi gorfod gohirio eu mis mêl.