Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd fflag Cymru yn cyhwfan uwchben Stadiwm y Mileniwm wrth i’r Gemau Olympaidd ddechrau yng Nghymru heddiw.

Fe fydd tîm pêl-droed merched y Deyrnas Unedig yn herio Seland Newydd yn y gêm agoriadol, cyn i Frasil chwarae yn erbyn Cameroon.

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal 11 gem bêl-droed dros gyfnod o 16 diwrnod yn y stadiwm, ac yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd yn hwb i dwristiaeth a busnesau yn y brifddinas.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd ef a’r Gweinidog Chwaraeon, Huw Lewis, yn mynychu’r gemau cyntaf.

“Y Gemau Olympaidd yw’r sioe fwyaf gwych ar y ddaear,” meddai Carwyn Jones. “Heddiw, yma yng Nghymru, y byddwn yn gweld y chwaraeon cyntaf, ac mae’n wych o beth ein bod ni’n rhan o’r digwyddiad byd-eang hwn.

“Ymhen deuddydd bydd llygaid y byd ar y seremoni agoriadol yn Llundain. Ond heddiw Cymru sy’n cael y sylw ac unwaith eto mae cyfle inni ddangos i bobl ar draws y byd pa mor arbennig yw’r croeso yma i ddigwyddiadau chwaraeon.”

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis ei fod yn “anrhydedd o’r mwyaf” cael cynnal y digwyddiad chwaraeon cyntaf yng Ngemau 2012.

“Mae’r gemau pêl-droed hyn yn gyfle rhagorol i bobl Cymru gael profiad o gystadleuaeth Olympaidd yn ein prifddinas.

“Bydd Cymru hefyd yn elwa’n fyd-eang wrth i ddarllediadau teledu o’r gemau hyn yn Stadiwm y Mileniwm gael eu gweld mewn cartrefi ledled y byd. “

‘Cyfle i Gymru’

Fe fydd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ac Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, hefyd yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm agoriadol.

Dywedodd Cheryl Gillan ei bod hi’n “hynod o falch bod camp fwyaf y byd yn mynd i ddechrau yng Nghymru”.

“Mae gan Gymru ran flaenllaw yn Gemau Llundain 2012 – mae’r medalau i gyd wedi eu creu yng Nghymru, yn ogystal â rhai elfennau o’r Parc Olympaidd ei hun.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y wlad gyfan yn bachu ar y cyfle i ddangos Cymru ar ei gorau, a sicrhau bod y wlad yn parhau i elwa ar ôl i’r gemau ddod i ben.”

Bydd 30 o athletwyr o Gymru yn rhan o ‘Team GB’ eleni, y mwyaf erioed, meddai Cheryl Gillan.

Capten tîm y Deyrnas Unedig yw Dai Greene, y neidiwr clwydi 400m o Felinfoel yn Sir Gaerfyrddin.